Daeth y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 i rym ym mis Ionawr 2005. Maent yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd i gael mynediad at ystod eang o wybodaeth amgylcheddol sydd gennym.
Mae’r meysydd canlynol wedi eu cynnwys:
- unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chyflwr y tir, gan gynnwys dwr, aer, fflora neu ffawna
- unrhyw wybodaeth am weithgareddau sydd yn effeithio ar yr amgylchedd yn andwyol, gan gynnwys swn a niwsans eraill
- unrhyw wybodaeth am fesurau sydd wedi eu dylunio i amddiffyn yr amgylchedd
- mae hyn hefyd yn cynnwys cynlluniau, rhaglenni, dadansoddiad budd a cost ac economaidd eraill sydd yn ymwneud â gwybodaeth amgylcheddol
-
gwybodaeth arall sydd yn cael ei dal gan y cyngor megis gwybodaeth sydd yn ymwneud â heolydd, trafnidiaeth, cynnal a chadw, cynllunio ar gyfer defnydd tir, rheolau datblygu, adeiladau ac ystadau hefyd yn cael ei ystyried fel gwybodaeth amgylcheddol
I wneud cais am wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Adran Iechyd yr Amgylchedd ar (01495) 357813.





