Pori yn ôl Gwasanaeth:
Gorfodaeth Cynllunio
Gorfodaeth
Pwrpas gorfodaeth cynllunio yw rheoleiddio datblygiad sydd wedi ei ymgymryd heb fudd caniatâd cynllunio. Os ydy caniatâd cynllunio wedi ei roi, efallai y bydd yn angenrheidiol i ddechrau gweithredu gorfodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth naill ai gyda’r manylion cymeradwy neu i gydymffurfio gydag amod cynllunio. Os hoffech wneud cwyn am ddatblygiad sydd heb gael ei awdurdodi, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Tîm Gorfodaeth Cynllunio ar 01495 355513.
1. Beth ydym yn ei wneud?
Mae’r tîm yn ymchwilio i honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth gyda rheolaeth cynllunio gan gynnwys
(a) datblygiadau sydd heb gael eu hawdurdodi, neu ddefnyddiau;
(b) gwaith sydd heb gael ei awdurdodi i adeilad rhestredig - boed yn waith mewnol neu allanol
(c) arddangosiad o hysbysebion na sydd wedi ei awdurdodi; a
(d) diffyg cydymffurfiaeth gydag amodau caniatâd cynllunio.
2. Beth yw hyd a lled y rheolau cynllunio?
Mae rheolau cynllunio yn berthnasol i unrhyw ddatblygiad. Mae’r diffiniad o ‘ddatblygiad’ ar gyfer dibenion Deddf Cynllunio Tref a Gwlad 1990 yn cael ei ystyried i gynnwys "gwneud gwaith adeiladu, peirianwaith, cloddio neu unrhyw weithgaredd arall ar neu o dan y tir neu newid sylfaenol i ddefnydd unrhyw adeilad neu ddarn o dir ".
3. A oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer pob datblygiad?
Na, mae nifer o ddatblygiadau bychain wedi eu heithrio o ganiatâd cynllunio gan yr Orchymyn Cynllunio Tref a Gwlad (Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol) 1995. Dylech gysylltu gyda’r Adran Rheoli Cynllunio bob tro er mwyn canfod a ydych angen caniatâd cynllunio cyn dechrau unrhyw ddatblygiad.
4. A yw’n drosedd i ymgymryd ag unrhyw ddatblygiad heb ganiatâd?
Na, o dan y Ddeddf nid yw’n cael ei ystyried yn drosedd i fethu a chydymffurfio gyda rheolau cynllunio, er eich bod yn cael eich cynghori fodd bynnag i gysylltu gyda’r awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau ar waith a fydd efallai angen ei gymeradwyo. Os ydy awdurdod cynllunio lleol yn ystyried y dylid rhoi hysbysiad gorfodaeth yn erbyn datblygiad na sydd wedi ei awdurdodi, yna mae diffyg cydymffurfiaeth gyda’r hysbysiad yma yn drosedd, a’r ddirwy fwyaf yw £20,000.
5. A yw’n drosedd o wneud gwaith ar adeilad sydd wedi ei restru?
Ydy, os ystyrir bod y gwaith yn effeithio ar gymeriad a hygrededd yr adeilad.
6. A yw’n drosedd i arddangos hysbysiad heb ganiatâd?
Mae rhai hysbysebion wedi eu heithrio o’r angen am ganiatâd hysbysebu. Maent yn cael eu hystyried i fwynhau caniatâd tybiedig. Mae arddangos unrhyw hysbysebion na sydd yn mwynhau caniatâd tybiedig yn drosedd.
7. Beth sydd yn digwydd os nad oes yna gydymffurfiaeth gydag amod o ganiatâd cynllunio?
Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol y pwer i roi hysbysiad torri amod lle nad oes modd apelio yn ei erbyn. Mae’n drosedd i beidio â chydymffurfio gyda hysbysiad o’r fath. Gellir erlyn y drosedd hon mewn llys ynadon gyda chosb neu ddirwy sylweddol.
8. Pa wybodaeth sydd ei hangen er mwyn arwain at ymchwiliad o achos penodol o dorri amod arfaethedig?
- Cyfeiriad y tir neu’r adeilad lle mae yna dorri amod
- Manylion sut y mae’r amodau wedi eu torri
- Enw a chyfeiriad y sawl sydd yn cwyno
- Unrhyw wybodaeth berthnasol arall/pobl eraill sydd ynghlwm.
9. Sut wyf yn rhoi gwybod am achosion o dorri amod arfaethedig?
Drwy gysylltu gyda’r Tîm Gorfodaeth Cynllunio ar 01495 355513 neu fel arall gyda’r Timau Cais Cynllunio ar 01495 355555.
10. Pa weithred a gymerir mewn achosion lle darganfyddir bod yna dorri amodau rheolau cynllunio?
Unwaith bo’r gwyn wedi ei hymchwilio a bod yna achos o dorri amod wedi ei gadarnhau, gall nifer o bethau ddigwydd sydd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sefyllfa:
- Negodi datrysiad boddhaol
- Gwneud cais cynllunio ôl-weithredol
- Os nad oes cais yn cael ei gyflwyno neu os ydy’r amodau a dorrir yn ddifrifol, yna gall hysbysiad gorfodaeth gael ei gyflwyno
Mewn achos lle bo yna niwed sylweddol yn cael ei achosi, efallai y byddai’n briodol i roi hysbysiad atal ar y cyd gyda hysbysiad gorfodaeth neu fynd ati i gael gwaharddeb gyfreithiol er mwyn atal gweithgareddau na sydd wedi eu hawdurdodi.
11. A oes yna gyfnod penodol lle bo’r datblygiad wedi hynny yn imiwn i weithred orfodol?
Oes, mae’r cyfnod lle y cyfyngir gweithred orfodol oddi mewn yw:
- 4 mlynedd ar gyfer datblygiad sydd wedi ei adeiladu a newid defnydd i anheddau hunan cynhaliol
- 10 mlynedd ar gyfer pob newid arall o ddefnydd neu dorri amodau
Os hoffech gadarnhau fod datblygiad yn imiwn o weithred orfodol cynllunio, rydych yn cael eich cynghori i wneud cais am Dystysgrif o Gyfreithlondeb. Mae’r holl gyngor uchod yn amlinelliad cryno o’r gyfraith.
Rydych yn cael eich cynghori i gysylltu gyda’r Cyngor cyn cychwyn.




