Ardal Prif Gynnwys

Cyngor a chanllaw cynllunio

Cwmtillery Lakes
Beth mae’r System Gynllunio yn ei wneud?

Mae’r system gynllunio yn rheoleiddio datblygiad a defnyddir tir er budd cyhoeddus.

Beth yw Rheoli Datblygiad?

Mae Rheoli Datblygiad (neu Reoli Cynllunio) yn broses o benderfynu ar geisiadau cynllunio ac yn anelu i sicrhau’r defnydd mwyaf economaidd o dir, mewn cydymffurfiaeth a’r polisïau cytunedig ar gyfer yr ardal.


A oes angen Caniatâd Cynllunio arnaf?

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob datblygiad. Rydych yn cael eich cynghori i gysylltu gyda’r Adran Rheoli Cynllunio i bennu a oes angen caniatâd cyn gynted â phosib. Yn ychwanegol, efallai y bydd cynnig angen cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu. Mae hon yn broses ar wahân ac rydych yn cael eich cynghori i gysylltu â Phennaeth Rheoli Adeiladu.

A fydd y Cyngor yn trafod cynnig cyn y bydd cais yn cael ei gyflwyno?

Mae’r Cyngor yn annog datblygwyr i ymuno â thrafodaethau cyn y cais. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi i drafod eich cynnig cyn cyflwyno eich cais yn ffurfiol. Mae hyn yn ein galluogi i adnabod problemau posib ac i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn yn hwyluso eich cais drwy’r broses. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim.

Sut wyf yn gwneud cais am Ganiatâd Cynllunio?

Rhaid i geisiadau cynllunio gael eu gwneud ar ffurflenni oddi wrth y Cyngor. Mae’n hawsach fel arfer i gyflogi Cynllunydd Tref Siartredig, Pensaer, Arolygwr Siartredig neu ddylunydd cymwysedig addas arall. Mae cwblhau’r ffurflenni a chynlluniau perthnasol yn darparu’r Cyngor gyda’r wybodaeth briodol ar gyfer ystyried cais am ddatblygiad. Yn ychwanegol, rhaid cyflwyno’r mwyafrif o geisiadau cynllunio gyda ffi, a’r Llywodraeth sydd yn gyfrifol am osod y lefel. Mae’r manylion sydd i’w cyflwyno a’r ffi briodol  sydd ei angen yn cael eu hesbonio ar y ffurflen gais.

Beth sy’n digwydd wedi cyflwyno fy nghais?

Wedi gwirio’r cais am ddilysrwydd (h.y. mae’r ffurflenni a’r cynlluniau yn gywir a’r ffi briodol wedi ei gyflwyno), mae’r cais yn cael ei gofrestru. Mae gan y Cyngor wyth wythnos wedyn i wneud penderfyniad. Mae penderfyniadau ar y mwyafrif o achosion yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod hwn, gydag ond y rhai mwyaf anodd neu ddadleuol yn cymryd mwy o amser. Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cymryd yn hirach na’r cyfnod wyth wythnos, er enghraifft, os ydy’r ymateb i ymgynghoriad hanfodol dal heb  ei dderbyn. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gytuno yn ysgrifenedig i ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfynu’r cais. Os ydy’r ymgeisydd yn anfodlon ymestyn y cyfnod ar gyfer gwneud y penderfyniad, gall y Cyngor wneud penderfyniad ar y cais ar sail y wybodaeth sydd ar gael.
Fel arall, gallwch apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn diffyg penderfyniad y cais cynllunio.

A fydd fy nghymdogion yn cael eu hysbysu?

Mae’n rhaid cyhoeddi’r holl geisiadau am ganiatâd cynllunio mewn un neu gyfuniad o’r ffyrdd canlynol:
 

  • Llythyron yn cael eu danfon i gymdogion 
  • Arddangos hysbysiad ar y safle 
  • Gosod hysbyseb yn y wasg 
     

Mae mathau penodol o geisiadau angen cyhoeddusrwydd ychwanegol. Mewn achosion o’r fath, mae’r ymgeisydd neu’r Cyngor yn cyhoeddi, naill ail drwy hysbysiad ar y safle neu drwy hysbysebu yn y wasg leol (fel arfer y Gwent Gazette) o dan yr Adran Hysbysiadau Cyhoeddus.

Mae cynigion sydd angen cyhoeddusrwydd ychwanegol yn cynnwys: cynigion sydd yn effeithio’n faterol ar gymeriad ardal gadwraethol, ceisiadau i wneud newidiadau i/ ddymchwel Adeilad sydd wedi ei Restru, cynigion arfaethedig a fydd, os y’u caniateir, yn medru mynd yn erbyn y cynllun datblygu a cheisiadau sydd yn cael eu cyflwyno gyda datganiad amgylcheddol.

Sut y bydd penderfyniad yn cael ei wneud?

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau bychain yn cael eu prosesu gan yr Adran Gynllunio o dan bwerau sydd wedi eu dirprwyo gan y Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag, mae ceisiadau mwy dadleuol neu unrhyw gais a argymhellir y dylid ei wrthod yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio. Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis calendr yn Siambr y Cyngor, y Ganolfan Ddinesig, Glyn Ebwy. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Adran Rheoli Cynllunio.

Beth os caiff fy nghais ei wrthod?

Os caiff eich cais ei wrthod, neu os ydych yn anghytuno gydag amod sydd wedi ei atodi i ganiatâd cynllunio, mae hawl gennych i apelio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Beth os ydy rhywbeth yn cael ei adeiladu heb ganiatâd cynllunio?

Os hoffech wneud cwyn am ddatblygiad sydd heb ei awdurdodi, neu os oes rhywbeth wedi ei gwblhau ond na sydd yn cydymffurfio gyda’r manylion a gymeradwywyd, dylech gysylltu gyda’r Tîm Gorfodaeth Cynllunio ac mae eu manylion cyswllt i’w gweld yn yr adran Gyswllt o’r wefan hon.
 
Os hoffech gyngor neu gymorth pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Adran Rheoli Cynllunio ar 01495 - 355517 neu 355518 neu ewch i weld polisi'r Cyngor ar Orfodaeth Cynllunio.
   
Am fwy o wybodaeth ar bolisi cynllunio, cyngor neu wybodaeth ar y gwasanaeth cynllunio, dilynwch os gwelwch yn dda'r linc i’r Portal Cynllunio.
 
Y Portal Cynllunio yw’r prif gyfrwng cyswllt a ffynhonnell o wybodaeth, ac mae wedi ei anelu at rywun sydd angen gwybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru a Lloegr.


 

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk