Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid yn darparu gwybodaeth gyfoes gyfrinachol a diduedd i bob person ifanc rhwng 11 a 25 oed ym mwrdeisdref Blaenau Gwent.
Cesglir yr wybodaeth o bob ardal, o bob gwasanaeth, asiantaeth a sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
Mae hyn yn cynnwys: Iechyd a Lles, Cyflogaeth, cyfleoedd Addysg a Hyfforddiant, Chwaraeon, gweithgareddau Cymdeithasol a Hamdden a llawer mwy.
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid hefyd yn hyrwyddo’r 10 Hawl.
Medrir cysylltu â’r gwasanaeth ar rif rhadffôn a gwasanaeth e-bost. Mae ganddo hefyd wasanaeth ateb 24-awr i dderbyn ymholiadau allan o oriau.
Mae hefyd wedi ymuno gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant i roi siop un stop ar gyfer eich holl anghenion gwybodaeth.
Mae’r gwasanaeth newydd “Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu” yn cadw manylion ar wasanaethau, asiantaethau a sefydliadau ar gyfer pawb rhwng 0-25 oed.




