Os ydych chi neu unrhyw berson arall sydd yn byw yn eich cartref yn anabl efallai y byddwch yn gymwys am grant rhwyddineb anabledd, (‘disabled factilities grant (DFG)’) tuag at y gost o ddarparu addasiadau a rhwyddineb i alluogi'r person anabl i fyw yno. Rhoddir grantiau o’r fath gan Gyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent o dan Ran 1 o Ddeddf Tai, Grantiau ac Adfywiad 1996 fel y’i diwygiwyd gan y Gorchymyn Diwygio Rheoliadol (Cynhorthwy Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Mae’r dudalen hon yn disgrifio’n fyr yr help sydd ar gael a sut i fynd ati i wneud cais am y grant.
Beth mae grantiau rhwyddineb amdano?
Gwaith i hwyluso mynediad ac i alluogi person anabl i symud yn ddidrafferth o amgylch a mwynhau ei gyfleusterau neu’r mwynderau o’i fewn. Gall y rhain gynnwys :
• Hwyluso mynediad i ac oddi wrth preswylfa i’r stryd tu allan;
• Hwyluso mynediad i ystafell fyw;
• Hwyluso mynediad i ystafell wely neu ddarparu ystafell wely newydd hygyrch i’r person anabl;
• Hwyluso mynediad i gyfleusterau bath a thoiled yn addas ar gyfer eu defnydd gan berson anabl, addasu cyfleusterau sydd yn bodoli eisoes ar gyfer y person hwnnw neu ddarparu cyfleusterau priodol;
• Gwaith i alluogi person anabl i gael defnydd llawn o reoli rheolyddion gwres, golau a phwer, e.e. adleoli unedau pwer a switshis, rheolyddion addasu;
• Addasu neu wella system wresogi yn addas ar gyfer ei ddefnyddio gan berson anabl;
• Gwaith i alluogi person anabl i gael gwell mynediad ar hyd y breswylfa i ofalu am berthynas sydd yn ddibynnol arnynt;
• Gwaith i wneud preswylfa yn ddiogel ar gyfer person anabl, megis minimeiddio'r perygl o ymddygiad treisgar neu frochus neu welliannau i ddigolledu am nam ar y synhwyrau.
Rhaid i holl weithiau o’r fath gael eu cefnogi gan adroddiad oddi wth y Therapydd Galwedigaethol Cymunedol i gadarnhau eu bod yn angenrheidiol ac yn addas ar gyfer y person anabl. Rhaid i’r gwaith fod yn rhesymol ac yn ymarferol o fewn y breswylfa o dan ystyriaeth.
Pwy sydd yn gallu gwneud cais?
• Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 18 mlwydd oed;
• Gall perchnogion sydd yn byw mewn ty, landlordiaid a thenantiaid wneud cais.
Faint o grant byddai yn ei gael?
• Bydd prawf modd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y person y mae’r cais mewn perthynas â’i bartner neu briod, p’un bynnag a’i bod yn gwneud y cais am grant. Mae ffigwr yn cael ei bennu sydd i fod adlewyrchu gallu’r person i gyfrannu. Mewn achos o berson o dan 18, nid yw’r prawf modd yn gymwys.
• £30,000 yw uchafswm y grant a delir.
I wneud cais neu am gyngor pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Tîm Sector Breifat gan ddefnyddio’r manylion isod.





