Tenantiaid preifat - cyngor a chefnogaeth

Mae nifer o  breswylwyr ym Mlaenau Gwent yn rhentu eu cartrefi oddi wrth tenantiaid preifat neu asiantaeth. Mae rhentu preifat yn hyblyg iawn ac mae’n medru bod yn hawdd iawn symud i mewn i gartref a gaiff ei rentu’n breifat. Dyma’r math o gartref y mae pobl fel arfer yn symud i mewn iddo ar ôl gadael cartref eu rhieni, ac mae rhentu yn ddelfrydol ar gyfer y bobl hynny sydd yn symud o amgylch er mwyn canfod gwaith.

Mae safonau’r cartrefi hynny yn y sector rhentu preifat a rheolaeth ohonynt yn medru amrywio. Oherwydd hyn, mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r landlordiaid, asiantaethau a thenantiaid i hyrwyddo rhentu cyfrifol ac i wella delwedd y sector hon oddi mewn i’r Cyngor Bwrdeistref. Gallwn gynnig cyfarwyddyd ar y safonau cyfreithiol ar gyfer cartrefi rhentu preifat a chyngor ar yr hyn i’w wneud yn wyneb problemau. Mae gennym ystod o bwerau y gallwn eu defnyddio er mwyn sicrhau bod cartrefi yn ddiogel.

Os ydych eisoes yn denant neu yn meddwl am rentu oddi wrth landlord preifat efallai y bydd ychydig o’r wybodaeth ar y wefan hon o gymorth.
 

Canfod rhywle i fyw

Mae anheddau rhentu preifat yn cael eu hysbysebu mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys papurau-newydd, ffenestri siopau, hysbysfyrddau archfarchnadoedd, gydag asiantaethau tai ac ar wefannau’r rhyngrwyd. 

Yr hyn i’w wneud cyn rhentu

Cyn i chi gytuno i rentu ty neu fflat, rhowch gipolwg go iawn arno er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu eich anghenion ac yn ddiogel i fyw ynddo. Dyma rai o’r pethau y dylech eu hystyried:
  
 

  • Gwresogydd: pa fath sydd yno a sut mae’n gweithio? Ai gwresogydd nwy ydyw a gall y landlord ddangos tystysgrif diogelwch nwy cyfredol i chi?
  • Lleithder: edrychwch am staenau neu lwydni ar y waliau a’r nenfwd
  • Trydan: a oes yna ddigon o socedi ac a ydyn yn gweithio?
  • Dwr: rhowch y tapiau ymlaen er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio
  • Cegin ac ystafell ymolchi: a ydynt yn lân ac yn meddu ar yr holl gyfleusterau angenrheidiol?
  • Celfi: Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa gelfi sydd yn dod gyda’r annedd. Sicrhewch restr gan y landlord gan warantu eich bod chi a’r landlord yn cytuno arno. 
  • Sicrwydd: gwiriwch fod yr holl ddrysau a ffenestri yn agor a chau yn iawn a bod digon o gloeon i gadw’r annedd yn ddiogel.
  • Diogelwch: sut byddech yn dianc pe bai tân? A oes unrhyw ddetectorau tân? Os ydych yn meddwl symud i mewn i dy sydd wedi ei newid yn fflatiau neu’n gyfres o fflatiau un ystafell, a oes yna offer atal tan megis detectorau mwg a gwres a drysau tân?

Gwenwch restr o unrhyw beth sydd ar goll neu wedi torri a siaradwch gyda’r landlord amdano.

Dylech hefyd sicrhau eich bod:
    

  • Yn medru fforddio’r rhent
  • Yn derbyn cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sydd yn nodi swm y rhent a phryd y dylid ei dalu ac sydd yn amlinellu’r hyn yr ydych chi a’r landlord yn gyfrifol amdano.

Chi a’ch landlord

Mae gennych hawl i “fwynhad tawel” o’r annedd yr ydych yn ei rentu. Golyga hyn fod yn rhaid i’r landlord eich gadael i ddefnyddio’r annedd yn heddychlon a rhaid iddo eich gadael i ddefnyddio’ch holl hawliau cyfreithiol. Rhaid i’ch landlord (ac asiantaeth os yn briodol) roi ei enw a’i gyfeiriad i chi er mwyn eich galluogi i roi gwybod am unrhyw broblemau parthed y llety.
 
Efallai y bydd eich landlord yn cadw set o allweddi ar gyfer yr annedd ond nid oes hawl ganddo i gael mynediad ar unrhyw adeg. Mae hawl gan y landlord i ddod i mewn i’r annedd er mwyn gwirio am unrhyw atgyweiriadau neu ddifrod ond rhaid iddo roi rhybudd ysgrifenedig o 24 awr i chi. Efallai y bydd yna argyfwng lle na fydd yn bosib i’r landlord i roi’r fath rybudd i chi ond dylai geisio cael eich caniatâd cyn mynd i mewn i’r annedd.

Os ydych yn talu eich rhent yn wythnosol mae hawl cyfreithiol gennych i lyfr rhent neu ddogfen debyg. Os ydych yn talu yn fisol gofynnwch am dderbynneb o’r holl rent sydd wedi ei dalu.


Gwneud atgyweiriadau

Os oes gennych broblem gyda’r llety sydd angen ei atgyweirio, cysylltwch gyda’r landlord drwy gyfrwng llythyr neu dros y ffon. Os bo’r landlord yn methu a gwneud y gwaith mewn amser rhesymol ffoniwch 01495 355051. Efallai y byddwn yn medru cymryd camau cyfreithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud.

Pa bryd bynnag y byddwch yn arwyddo’r cytundeb tenantiaeth gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol pa atgyweiriadau sydd yn gyfrifoldeb i chi a  pha atgyweiriadau sydd yn gyfrifoldeb i’r landlord a sut i roi gwybod am unrhyw atgyweiriad sydd i angen?

Gadael eich cartref

Os ydych am ddod a’ch tenantiaeth i ben, rhaid i chi fel arfer rhoi rhybudd ysgrifenedig o 28 diwrnod i’r landlord (cadwch gopi o bob un gohebiaeth). Os oes yna gytundeb am dymor penodol megis Tenantiaeth Fyrddaliadol Sicr, bydd siwr o fod yn gofyn i chi dalu’r rhent hyd at ddiwedd y cyfnod, oni bai fod yna gymal sydd yn eich caniatáu i chi adael yn gynnar.

Eich landlord am ddod â’ch tenantiaeth i ben

Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau nawr yn Denantiaeth Fyrddaliadol Sicr (dylai hyn fod yn glir o’r cytundeb tenantiaeth). Bydd yn rhaid i’ch landlord rhoi rhybudd ysgrifenedig o ddau fis i chi yn eich hysbysu fod yn rhaid i chi adael ond gellir lleihau hyn mewn rhai amgylchiadau.
Ni ddylai’r landlord eich poenydio neu’ch bygwth er mwyn sicrhau eich bod yn gadael neu eich troi allan heb fynd drwy’r weithdrefn gywir.

Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth

Mae Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth ymhlith y mesurau a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Tai  2004 gyda’r nod o wella safonau o fewn y sector rhentu preifat.  Bydd y DBT yn berthnasol i bob un tenantiaeth fyrddaliadol sicr lle bo ernes yn cael ei dderbyn (nid yw hyn yn cynnwys rhent o flaen llaw). Bydd yn cychwyn ar y 6ed o Ebrill 2007 a bydd yn ddilys ar gyfer yr holl gytundebau tenantiaeth o’r dyddiad hwn. 

Mae yn ddau brif amcan: 
    

  • I sicrhau arfer da wrth ddelio gydag ernesau - felly pan fo tenant yn talu ernes, ac hawl i’w gael yn ôl, gallant fod yn sicr y bydd hyn yn digwydd.
  • I gynorthwyo i ddatrys anghydfodau drwy gael gwasanaeth datrys anghydfod amgen. Bydd hefyd yn annog landlordiaid a thenantiaid i gael cytundeb clir ar amodau’r annedd o’r cychwyn cyntaf.

Sut mae Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth yn gweitio?

Gall landlordiaid ddewis rhwng cynllun  gwarchodol neu cynllun yn seiliedig ar yswiriant:

Cynllun gwarchodol 
    

  • Mae’r tenant yn talu’r ernes i’r landlord
  • Mae’r landlord yn talu’r ernes i mewn i gynllun
  • O fewn 14 diwrnod o dderbyn yr ernes, rhaid i’r landlord rhoi'r wybodaeth ragnodedig am y cynllun a ddefnyddir a’r denantiaeth i’r tenant
  • Ar ddiwedd y denantiaeth, os yw’r landlord a’r tenant yn cytuno ar sut y dylai’r ernes gael ei rannu, byddant yn dweud wrth y darparwr cynllun a fydd yn dyrannu’r ernes yn y modd y cytunwyd
  • Os oes anghydfod, bydd yr ernes yn cael ei gadw yn y cynllun hyd nes y bydd y gwasanaeth datrys anghydfod neu’r llysoedd yn penderfynu ar hyn sydd yn deg
  • Mae’r cynllun am ddim i’r landlord. Bydd y gost o weinyddu’r cynllun yn dod o’r llog a gesglir gydag unrhyw log sydd dros ben yn cael ei roi yn nol yn unol â dyraniad yr ernes. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan ar ochr dde'r dudalen hon

Cynllun yn seiliedig ar yswiriant
    

  • Mae’r tenant yn talu’r ernes i’r landlord
  • Mae’r landlord yn cadw’r ernes ac yn talu premiwm i’r yswiriwr
  • O fewn 14 diwrnod o dderbyn yr ernes, rhaid i’r landlord rhoi'r wybodaeth ragnodedig am y cynllun a ddefnyddir a’r denantiaeth i’r tenant
  • Ar ddiwedd y denantiaeth, os yw’r landlord a’r tenant yn cytuno ar sut y dylai’r ernes gael ei rannu, byddant yn dweud wrth y darparwr cynllun a fydd yn dyrannu’r ernes yn y modd y cytunwyd
  • Os oes anghydfod, rhaid i’r landlord drosglwyddo’r swm sydd yn destun anghydfod i ddarparwr y cynllun er mwyn iddo yntau ei gadw’n ddiogel tan bo’r anghydfod wedi ei ddatrys
  • Os nad yw’r landlord, am unrhyw reswm, yn cydymffurfio, bydd y trefniadau yswiriant yn gwarantu fod yr ernes yn cael ei ddychwelyd i’r tenant os ydyw yn ei haeddu. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan ar ochr dde'r dudalen hon

Ym mhob cynllun, rhaid dychwelyd balans yr ernes  i’r tenant o fewn 10 diwrnod o gytuno ar y cytundeb. Yn ychwanegol at y ddwy linc uchod, mae yna drydydd cynllun, sydd yn cael ei weinyddu gan y Dispute Service Ltd sydd yn gynllun yn seiliedig ar yswiriant ac sydd wedi ei anelu at asiantaethau llogi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan ar ochr dde'r dudalen hon.


Cyngor ar gyfer landlordiaid preifat ac asiantaethau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio gyda’r lanlordiaid, asiantaethau a thenantiaid i hyrwyddo rhentu cyfrifol ac i hyrwyddo delwedd bositif o’r sector hon  ac i gefnogi arfer da oddi mewn i’r sector. Gallwn gynnig cyfarwyddyd ar y safonau cyfreithiol ar gyfer cartrefi rhentu preifat a chyngor ar yr hyn i’w wneud yn wyneb problemau. Mae gennym ystod o bwerau y gallwn eu defnyddio er mwyn sicrhau fod cartrefi yn ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda. 

Gallwn roi cyngor i denantiaid preifat er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau os ydych yn rhentu annedd fel landlord preifat a sicrhau eich bod yn ymwybodol hefyd o hawliau a chyfrifoldebau eich tenantiaid. 

Trefnu tenantiaeth breifat

Rydych yn trefnu tenantiaeth pan eich bod yn cytuno i adael i rywun rhentu eich annedd. Mae cytundeb tenantiaeth yn gytundeb cyfreithiol sydd yn amlinellu eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel landlord a hawliau a chyfrifoldebau eich tenant. Gall fod yn ysgrifenedig neu ar lafar ond mae’n synhwyrol gosod pob dim mewn ysgrifen er mwyn sicrhau fod gan bawb gofnod clir o’r hyn sydd yn y cytundeb.

Dylai’r cytundeb gynnwys gwybodaeth am:
    

  • Y math o denantiaeth
  • Hyd y denantiaeth
  • Swm y rhent a phryd y dylid ei dalu
  • Pwy sydd yn gyfrifol am atgyweiriadau
  • Sut i ddod a’r denantiaeth i ben a’r weithdrefn o adael yr annedd.

Dylai cytundeb tenantiaeth gynnwys enw a chyfeiriad y landlord (neu asiant).

Dod a thenantiaeth breifat i ben

Er mwyn dod a thenantiaeth breifat i ben, bydd rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’ch tenant. Mae’r math o hysbysiad y mae’n rhaid ei roi yn dibynnu ar bryd union y dechreuodd y denantiaeth a pham yr ydych am iddynt adael. Efallai y bydd rhaid i chi gael gorchymyn o feddiant oddi wrth y Llys Sirol. Os bo’ch tenant dal ddim yn gadael, efallai y bydd rhaid i chi ddychwelyd i’r llys er mwyn cael Gwarant o Feddiant.

Mae’n bwysig eich bod yn cofio fod yn rhaid i chi ddilyn y weithdrefn gywir ac ni allwch droi tenant allan eich hun. Ffoniwch 01495 355051 am gyngor pellach.

Os symudodd eich tenant i mewn cyn 15fed o Ionawr 1989, mae’n debygol y bydd ganddynt denantiaeth reoledig. Dim ond ychydig o’r rhain sydd ar ôl ac os ydych yn credu fod gan eich tenant y fath denantiaeth, ffoniwch 01495 355051 am gyngor pellach.

Os symudodd eich tenant i mewn ar ôl yr 16eg o Ionawr 1989 a chyn Mawrth 1997 bydd naill ai ganddynt Denantiaeth Sicr neu Denantiaeth Fyrddaliadol Sicr. Os symudodd y tenant i mewn ar ôl y 1af o Fawrth 1997, mae’n debygol fod ganddynt Denantiaeth Fyrddaliadol Sicr.

Mae Tenantiaeth Sicr yn rhoi hawl hirdymor i’r tenant i aros yn ei gartref. Gellir ond dod a’r tenantiaeth i ben os oes gennych reswm penodol dros wneud hynny, megis methu talu rhent (mae yna 17 rheswm dros geisio adfeddiannu’r annedd). Rhaid rhoi hysbysiad i’r tenant eich bod yn bwriadu adfeddiannu’r ty gyda rhybudd o 2 wythnos neu 2 fis, gan ddibynnu ar ba sail yr ydych yn ceisio adfeddiannu’r ty. Mae’n rhaid i’r Cyngor Sirol gytuno gyda’ch cais am adfeddiannu.

Mae Denantiaeth Fyrddaliadol Sicr yn rhoi llai o hawliau i’ch tenant ac mae am gyfnod penodol. Crëwyd y math yma o denantiaeth rhwng 15fed o Ionawr 1989 a 28ain o Chwefror 1997 os oeddech wedi rhoi hysbysiad adran 20 i’ch tenant cyn i’r denantiaeth gychwyn. Roedd yr hysbysiad hwn ar wahân i’r denantiaeth ac yn meddu ar yr effaith o greu tenantiaeth fyrddaliadol. Os symudodd y tenant i mewn ar ôl 1af o Fawrth 1997, mae’n debyg fod ganddynt Denantiaeth Fyrddaliadol Sicr

Os ydych yn bwriadu adfeddiannu, rhaid rhoi hysbysiad o ddau fis o leiaf gan ddefnyddio adran 21 o Ddeddf Tai 1998. Ni all y cyfnod hysbysiad orffen cyn diwedd y term sefydlog. Mewn rhai achosion (os bo’r rhent heb ei dalu am 13 wythnos) gellir rhoi hysbysiad o 2 wythnos o dan adran 8 o’r Ddeddf.

Yn y naill achos a’r llall, rhaid gwneud cais i’r Llys Sirol am orchymyn adfeddiannu.

Os ydych yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu ystafell fyw gyda’ch tenant efallai na fydd yna denantiaeth gyfreithiol ond yn hytrach hawl i feddiannu.

Mewn achosion o’r fath, rhaid i chi ond rhoi rhybudd rhesymol iddynt adael (efallai mis) a gallwch eu troi allan eich hunain heb fynd ar ofyn llys am orchymyn. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, rydym yn eich cynghori i gael cyngor cyfreithiol yn gyntaf.

Mae’n drosedd i droi allan tenant heb ddilyn y weithdrefn gywir.

Diogelwch nwy

Os oes unrhyw  offerynnau nwy yn yr annedd yr ydych yn bwriadu ei rentu, rhaid i chi:
     

  • Sicrhau fod gosodiadau nwy a ffliwiau yn cael eu cynnal yn ddiogel a bod offerynnau yn cael eu cynnal yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr
  • Sicrhau bod pob offeryn nwy a’r ffliwiau yn cael eu gwirio’n flynyddol
  • Sicrhau fod yr holl osodiadau a gwaith cynnal a chadw a gwiriadau diogelwch yn cael eu gwneud gan osodwr nwy cofrestredig CORGI
  • Cadw cofnod o bob gwiriad nwy am y ddwy flynedd ddiwethaf
  • Rhoi copi o’r gwiriad mwyaf diweddar i’r tenant