Beth yw Budd-daliadau Tai a Threth Cyngor?
Os ydych ar incwm isel, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer rhyw gymorth i dalu eich Treth Cyngor a/neu eich Rhent.
Mae’r budd-dal a delir i denantiaid awdurdod lleol yn cael ei adnabod fel ad-daliad rhent, tra bo budd-dal a delir i denantiaid y sector breifat, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithas Tai, yn cael ei adnabod fel lwfans rhent. Mae budd-dal tebyg hefyd yn cael ei dalu tuag at Dreth Cyngor, ac adwaenir hyn fel Budd-dal Treth Cyngor. Mae’r Llywodraeth yn llunio’r rheolau ond mae eich Cyngor lleol yn gweithredu’r cynllun ar eich rhan.
Beth yw’r Rhent Cymwys?
Mae Budd-dal Tai yn cael ei dalu ar y rhent cymwys sydd yn medru bod yn wahanol i’r rhent
gwirioneddol. Gall eich rhent gwirioneddol gynnwys taliadau am wasanaethau sydd yn cael eu darparu.
Mae'r rhai o’r rhain yn gymwys ar gyfer budd-dal, tra bo eraill yn anghymwys. Byddwn yn didynnu symiau am wasanaethau anghymwys o’ch rhent er mwyn cyfrifo'r rhent cymwys at ddibenion budd-dal. Er mwyn atal landlordiaid rhag gosod rhent gormodol a hawlwyr rhag byw mewn llety mwy costus nag sydd angen, mae yna reoliadau cymhleth sydd yn gofyn i awdurdodau lleol i gyfyngu ar rent gormodol.
Mae’r Gwasanaeth Rhent yn asesu rhent marchnad yr anheddau unigol, fel y gellir adnabod rhenti gormodol. Nid yw Swyddogion Rhent y Gwasanaeth Rhent yn cael eu cyflogi gan y Cyngor hwn ac mae eu penderfyniadau yn holl annibynnol, ond wedi eu rhwymo ar Swyddogion Budd-daliadau'r Cyngor.
Nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ynglyn ag a ddylid defnyddio’r ffigwr rhent a ddefnyddir gan y Swyddog Rhent wrth asesu ceisiadau am fudd-dal tai.
Mae rheolau newydd a gyflwynwyd yn Hydref 1996 yn effeithio ar geisiadau oddi wrth y sawl sydd o dan 25 mlwydd oed ac sydd yn sengl; yn yr achosion hyn, mae’r uchafswm rhent lle y gellir talu budd-dal yw’r penderfyniad rhent ystafell unigol, sydd yn cael ei gyfrifo gan y Swyddog Rhent hefyd. Mae nifer o newidiadau sydd yn y ddeddfwriaeth yn ymateb i’r pryder am gostau cynyddol Budd-daliadau Tai yn ystod y blynyddoedd diweddar ac maent yn ymgais i annog tenantiaid posib i negodi rhent gyda landlordiaid.
O’r 2ail o Orffennaf 2001, mae cynllun o Daliadau Tai Dewisol wedi ei gyflwyno. Pwrpas y taliadau yma yw darparu cymorth cyllidol pellach i bobl tuag at eu rhent a’u treth cyngor, a hynny mewn achosion lle eu bo yn profi caledi ariannol a/neu mewn amgylchiadau perthnasol arbennig. Er mwyn derbyn taliad o’r fath, rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer peth Budd-dal Tai neu Dreth Cyngor yn y lle cyntaf. Mae’r swm y gall y Cyngor wario ar daliadau o’r fath wedi ei gyfyngu gan y Llywodraeth ac mae’r swm yn newid yn flynyddol.
Cysylltwch gyda’r Cyngor os gwelwch yn dda os hoffech wneud cais am daliad o’r fath.
Gall tenantiaid posib drwy gyfrwng cais at yr Awdurdod Lleol cael gafael ar fanylion o’r ‘uchafswm rhent’ y bydd budd-dal yn cael ei gyfrifo, cyn cytuno ar denantiaeth.
Adnabyddir hyn fel ‘penderfyniad cyn-tenantiaeth’. Mae’n darparu tenantiaid posib gyda manylion yr uchafswm a delir gan Fudd-dal Tai ar gyfer annedd unigol, ond nid y swm o Fudd-dal Tai y byddai’r person yn ei dderbyn, gan fod hyn yn ddibynnol ar ffactorau eraill gan gynnwys incwm a chyfalaf yr hawliwr.
Byddai’r wybodaeth yn caniatáu i rywun i geisio negadu rhent is neu ddewis rhwng tenantiaethau.
Beth yw’r Taliad Treth Cyngor Cymwys?
Mae pobl sydd yn byw mewn anheddau yn derbyn i fyny at 100% o’r bil, ond byddant yn derbyn llai o ostyngiad os oes ganddynt oedolion sydd dros 18 mlwydd oed yn byw yn y cartref hefyd.
Fframwaith Ddilysu – Helpwch Ni i’ch Helpu Chi
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllaw lle bo rhaid i’r Cyngor, wrth asesu cais am Fudd-dal, orfod gofyn am brawf gwreiddiol o hunaniaeth, incwm, budd-daliadau a chyfalaf pob aelod o’r ty, gan gynnwys y rhai hynny na sydd yn ddibynnol ac is-denantiaid.
Er mwyn peidio ag oedi prosesu unrhyw hawliad, ceisiwch ddanfon os gwelwch yn dda neu dewch â phrawf gwreiddiol wrth wneud eich cais oherwydd ni all y Cyngor brosesu eich cais heb dystiolaeth o’r fath. Nid yw llungopïau yn dderbyniol. Mae hyn yn gymhelliad i sicrhau bod y Cyngor yn talu’r budd-daliadau cywir i’r cwsmeriaid cywir.
Ymweliadau Cartref
Os nad yw person yn medru mynychu swyddfa’r Cyngor o ganlyniad i oedran, anabledd, afiechyd, efallai y bydd y Cyngor ymweld â’r cwsmeriaid yma yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ei ymrwymo i sicrhau bod pobl yn derbyn eu lwfans cywir o Fudd-dal Tai a Threth Cyngor a gwneir pob ymdrech i ddelio gyda hawliadau cyn gynted â phosib.
Fodd bynnag, mae yn bwysig bod manylion y bobl hynny sydd yn hawlio Budd-dal ond nad ydynt yn gymwys i’w dderbyn yn cael eu rhoi i’r Adran Dwyll Budd-daliadau. Os am roi gwybod am achos o Dwyll Budd-daliadau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Llinell Dwyll ar 0800 587319. Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a roir yn gyfrinachol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar Fudd-daliadau Tai neu Dreth Cyngor, cysylltwch â’r adran hon.
Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener o 9yb i 5yh ac eithrio dydd Mercher pan fo’r adran ar agor rhwng 10yb a 5yh.





