Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae’r lefelau o salwch tebyg i ffliw yn cynyddu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae nifer y bobl sy’n dioddef o’r ffliw yn uwch na’r hyn sy’n arferol ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Er mai salwch ysgafn yw ffliw moch i’r rhan fwyaf o bobl, dylem barhau’n wyliadwrus, oherwydd gall y feirws achosi salwch difrifol ac, yn anffodus, bydd rhai pobl yn marw.
Mae’r broses o frechu yn erbyn ffliw moch wedi dechrau ar gyfer pobl yn y grwpiau risg uchel a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn y lle cyntaf. Bydd pobl yn y grwpiau blaenoriaeth yn cael gwahoddiad gan eu meddyg teulu i glinig imiwneiddio neu i apwyntiad yn eu meddygfa. Bydd cyflogwyr y GIG a gofal cymdeithasol yn trefnu bod eu staff yn cael eu brechu.
Bydd rhaglen frechu’r ffliw tymhorol yn parhau ar yr un pryd.
Moch arnoch chi neu ar rywun yn eich gofal
I atal y clefyd rhag lledaenu, dylai pobl sydd â symptomau tebyg i ffliw aros adref a gwirio’u symptomau ar wefan Galw Iechyd Cymru www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffonio’r llinell wybodaeth ffliw moch ar 0800 1 513 513.
Os yw’r symptomau’n gwaethygu neu’n ddifrifol, neu os yw pobl mewn gr ˆ wp risg uchel, e.e pobl â chyflwr cronig, plant dan 5 oed neu fenywod beichiog, dylent ffonio’u meddyg teulu gan eu bod yn cael blaenoriaeth am driniaeth brydlon â chyffuriau gwrthfeirysol i leddfu’r symptomau.
Ni ddylai pobl sydd â symptomau tebyg i ffliw fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, meddygfeydd teulu na fferyllfeydd, rhag lledaenu’r feirws i eraill. Gall ymweliadau o’r fath roi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys a pheri oedi posibl i gleifion eraill.
I gael cyngor cyffredinol ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ewch i: www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Gwybodaeth am flliw moch www.direct.gov.uk/pandemicflu 0800 1513 513
- Mae gwybodaeth pellach i'r cyhoedd ar gael drwy'r Llinell Gwybodaeth Ffliw Moch sef 0800 1 513 513.
- Mae gwybodaeth pellach am Ffliw Moch ar gael yn ddwyieithog ar www.nphs.wales.nhs.uk ac hefyd gwybodaeth ar gael wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru yma www.wales.gov.uk
- Galw IECHYD Cymru – 0845 46 47 – www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Gwybodaeth i cyflogwyr a busnesau
Mae cyngor i fusnesau ar gael wrth Yr Adran Iechyd.





