Blaenau Gwent yn Llwyddo gyda Buddsoddwyr Mewn Pobl Gorfforaethol
Un o amcanion allweddol yr Awdurdod yw llwyddo i ennill a chadw statws Buddsoddwr Mewn Pobl Gorfforaethol.
Mae’r safon IiP yn asesi effeithlonrwydd mudiad mewn rheoli a datblygu ei bobl er mwyn cyflawni ei amcanion busnes.
Mae’n ymwneud gyda meysydd fel cyfathrebu, gosod amcanion, dysgu a datblygiad, effaith dysgu ar gyflwyniad gwasanaeth ayb.
Fel rhan o’r gwaith tuag at achrediad, dros y blynyddoedd diwethaf mae holl adrannau’r Awdurdod wedi ceisio a llwyddo i gael achrediad unigol yn erbyn y safon.
Y gwahaniaeth rhwng achrediad unigol a chorfforaethol yw bod staff yn cael eu cyfweld am yr Awdurdod cyfan, ei reolaeth, gweledigaeth, amcanion, dysgu a datblygiad, ayb, yn hytrach nag ond yr hyn sydd yn mynd i mewn i’w ardal gwasanaeth eu hunain.
Aseswyd yr Awdurdod yn gyntaf nôl ym mis Rhagfyr 2005 ond fe fethodd i gwrdd â’r safon mewn cwpwl o ardaloedd, a oedd angen eu gwella. Cymerodd yr ail asesiad le ar 4 a 5 o Ragfyr 2006, ac yn gynnar ym mis Ionawr hysbyswyd yr Awdurdod ei fod wedi ei ddyfarnu yn llwyddiannus yn cwrdd gyda’r safon bresennol, yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.
Mae achrediad yn erbyn Safon Gorfforaethol IiP yn gryn lwyddiant i’r Awdurdod a’r holl staff, nid am ei fod yn wobr fawreddog yn ei hun, ond am ei fod yn arwydd bod yr Awdurdod yn rheoli ac yn datblygu ei bobl yn deg ac yn effeithlon er mwyn cyflwyno gwasanaethau sydd yn gwella, i drigolion Blaenau Gwent.