Mae Blaenau Gwent yn un o’r ardaloedd trosedd mwyaf diogel yn y DU.
Mae troseddau difrifol yn bethau anghyffredin iawn ac mae heddlu cymunedol yn helpu i leihau'r gyfradd trosedd sydd yn isel iawn yn barod. Mae ffigurau diweddar yn dangos gostyngiad o 16% ym mhob trosedd ar draws Blaenau Gwent.
Mae’r amgylchedd diogel yma wedi ei adeiladu ar sail gadarn o ymddiriedaeth rhwng yr Awdurdod Lleol, yr Heddlu a’r gymuned, gyda help oddi wrth bartneriaethau lleol eraill. Mae’r bartneriaeth diogelwch cymunedol Blaenau Gwent Mwy Diogel yn datblygu ac yn cydlynu amrywiaeth eang o ddatrysiadau, i bryderon lleol sydd yn cael eu codi gan y cymunedau lleol.
Mae’r bartneriaeth bositif sydd yn cael ei fwynhau ym Mlaenau Gwent yn creu amgylchedd positif a heddychol i fyw a gweithio o’i fewn.




