Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn rheoleiddio ac yn trwyddedu gweithgareddau dan wahanol reoliadau a Deddfau sy'n rheoli gweithrediad mathau neilltuol o fusnesau.
Diben y mesurau rheoli hyn yw cynnal, amddiffyn a gwella diogelwch y cyhoedd, iechyd a'r amgylchedd drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis addysg, cyngor a gorfodaeth yng nghyswllt y ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae gwahanol adrannau o fewn y Cyngor yn delio gyda gwahanol drwyddedau. Edrychwch ar y drwydded unigol neu ganiatâd y mae gennych ddiddordeb ynddynt i gael gwybod gyda phwy i gysylltu. Gallwch fynd yn syth i'r drwydded/adran drwy glicio ar y math perthnasol o drwydded/caniatâd ar y chwith. Yn ychwanegol, gellir gwneud cais ar-lein am y rhan fwyaf o drwyddedau/caniatâd drwy Gyfarwyddeb Gwasanaethau'r Undeb Ewropeaidd, y rhoddir y manylion islaw. Ar gyfer eraill mae'n rhaid gwneud cais drwy argraffu'r ffurflen gais berthnasol a'i phostio at yr adran berthnasol o fewn y Cyngor.
http://ec.europa.eu/internal_market/eu-go/
Am Gyfarwyddeb Gwasanaethau'r Undeb Ewropeaidd
Nod Cyfarwyddeb Gwasanaethau'r Undeb Ewropeaidd yw chwalu rhwystrau masnachu mewn gwasanaethau rhwng gwledydd yn yr UE. Bydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gwasanaeth, yn arbennig fentrau bach a chanolig, i gynnig eu gwasanaethau i gwsmeriaid yng ngwledydd eraill yr UE, p'un ai ydynt yn sefydlu rywle arall yn yr UE neu'n darparu gwasanaethau o bell o'r Deyrnas Unedig.
Beth yw'r Gyfarwyddeb Gwasanaethau?
Mae'r Gyfarwyddeb Gwasanaethau yn gyfraith Ewropeaidd sy'n anelu i wneud bywyd yn haws ar gyfer busnesau sy'n darparu neu sy'n defnyddio gwasanaethau yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i holl wledydd yr UE godi rhwystrau cyfreithiol a gweinyddol. I gael mwy o wybodaeth, gweler y daflen "Cyfarwyddeb Gwasanaeth, Hwyluso Gwneud Busnes."





