Mae'r tywydd braf wedi cyrraedd yn gynnar a blodau'r gog yn eu gogoniant. Pam na ymwelwch â Gwarchodfa Natur Cwm Tawel yn y Cwm, Glynebwy a mynd am dro drwy'r coetir ffawydd naturiol yma, y credir ei fod yr uchaf ym Mhrydain.
Mae Blaenau Gwent ar ymylon Bannau Brycheiniog yn ardal Blaenau'r Cymoedd yn Ne Cymru. Mae gan yr ardal amrywiaeth ryfeddol o dirweddau o gymoedd coediog serth y de i rostir agored anghysbell yn y gogledd. Mae gan y tapestri cyfoethog yma gyfoeth o hanes o Oes yr Efydd, gyda golwg ar y canoloesoedd a llu o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y medrir eu hymchwilio ar droed, beic, cefn ceffyl neu gar.
Gyda chymaint o hanes i'w ddarganfod yn yr ardal, ni fydd ymweliad i Flaenau Gwent yn eich siomi.
Mae nifer fawr o leoedd i ymweld â hwy, aros ynddynt a'u mwynhau.





