Partneriaeth Gofal Cymdeithasol

Mae Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Blaenau Gwent yn bartneriaeth werthfawr sydd wedi sefydlu’n dda. Ei nod yw datblygu un ymagwedd at y gweithlu ledled Blaenau Gwent.  Caiff y bartneriaeth ei chefnogi’n weithgar ac yn frwdfrydig gan ei aelodau sy’n rhoi eu hamser i weithredu’r cynllun blynyddol a phrosiectau penodol.

Y Meysydd Allweddol ar gyfer Datblygu a Chamau Gweithredu ar gyfer 2011-2012 yw:

Gweithredu’r Rhaglen Datblygu Gofal Cymdeithasol sef:  

  • Rhaglenni hyfforddiant sgiliau ar draws y sector
  • Rhaglen hyfforddiant cymhwyso gwaith cymdeithasol
  • Cyflenwi a chefnogi diplomâu Fframwaith Credydau a Chymwysterau i gynyddu’r nifer o staff gyda chymwysterau ar draws yr holl sector
  • Datblygu staff i ddarparu gwasanaethau gwell
  • Cydnabod a dathlu llwyddiant
Cefnogi nodau’r Bartneriaeth – cydweithio i ddarparu gwasanaethau gofal sy’n canolbwyntio ar y dinesydd yn unol â blaenoriaethau gwasanaeth newydd, sy’n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a diogelu pobl agored i niwed o fewn Blaenau Gwent.

Datblygu cyfleoedd cydweithio yn seiliedig ar egwyddorion:
  • Budd ariannol/arbedion cost
  • Budd ansawdd o fewn adnoddau presennol
  • Budd effeithiolrwydd
Datblygu ymhellach a hybu gweithgareddau cynllunio gweithlu a gyrfaoedd ar draws yr holl sector.

Manylion Cyswllt

Cynolfan Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
Sgwar yr Eglwys
Tredegar
NP22 3EA

Ffon: (01495) 354720

Ffacs: (01495) 354673

 

Ebost : deborah.gibbons@blaenau-gwent.gov.uk