Llwybr Treftadaeth Tredegar

Tredegar Heritage Trail

Tro Tredegar

O’r clwydi, ym Mynedfa Rhes y Parc/Park Row i Barc Bedwellte cerddwch ar hyd Rhes y Parc i Gapel Saron (1), tua 300 llath. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o 1858, er yr adeiladwyd y capel gwreiddiol yn 1819. Ym mis Gorffennaf 1829 cyfarfu holl eglwysi anghydffurfiol yr ardal yn Saron i brotestio fod y ffwrneisi haearn yn gweithio ar y Sabath. Ni chymerodd y meistri haearn unrhyw sylw o gwbl, a chawsant eu condemnio’n hallt. Ailgynnwyd y gwrthwynebiadau ym mis Tachwedd 1831 ar ôl i William Walters ddisgyn i ffwrnais ar ddydd Sul a’i ladd, ond yn ôl yr arfer anwybyddwyd eu protestiadau.

O Saron, cerddwch 150 llath ar hyd Teras Harcourt i Gapel Peniel (2) ar y llaw dde. Adeiladwyd y Capel gwreiddiol yn 1809. Ym mis Hydref 1832 cynhaliwyd cynhadledd yr Eglwysi Methodistaidd Calfinistaidd ym Mheniel, a arweiniodd at gondemnio Clybiau’r Undeb a gwrthod aelodaeth o’r eglwys i’r rhai a gymerai rai yn y Clybiau.

Cerddwch 200 llath ar hyd Teras Harcourt i gornel Stryd y Frenhines Victoria ac yna at Fanc Barclays ar gornel Stryd y Castell. Mae’r adeilad yn Stryd y Frenhines Victoria, gyferbyn â’r Banc, yn nodi safle’r hen Weithdy (3) a agorodd yn 1820. Yn 1847 aethpwyd â’r tlodion i’r Fenni cyn i’r Gweithdy agor newydd yn St James yn 1851. Mae cofnodion yn nodi cost claddu’r trigolion:

 “For coffin and shift for Mary Lewis – 17/6d.  To John Davies for digging grave for Mary Lewis – 2/0d”.

Gyferbyn â’r Banc ar ochr Stryd y Castell, safai Ffoledd Fothergill, twr crwn tebyg i’r rhai yn Nantyglo. Fe’i adeiladwyd yn 1840-5, a dywedwyd ei fod yn sefyll mewn chwarter erw o dir gyda wal dwred o amgylch gyda dau dy gyda gerddi o fewn y waliau.

Cafodd y ty crwn a alwyd “Yr Hen Gastell” ei ddymchwel a defnyddiwyd y deunyddiau i adeiladu’r Gwesty Castell presennol.

Cerddwch i lawr Stryd y Castell a chroesi’r ffordd yn y groesfan cerddwyr yna parhau tuag at y Cylch. Yng nghanol y Cylch saif Cloc y Dref Tredegar (4), calon symbolaidd y dref. Mae anghydfod am wir gost y Cloc, mae rhai ffynonellau yn dweud £500, eraill £1,000, ond fe’i hadeiladwyd oherwydd ymdrechion Mr R P Davies, Rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, a’i wraig. Cytunodd Mr Davies dalu £400 pe medrai pobl y dref dan arweiniad ei wraig godi’r gweddill. Trefnodd Mrs Davies ffair gyda chymorth ei chwaer. Yn anffodus bu’r ddwy chwaer farw cyn y cynhaliwyd y ffair ond cododd y digwyddiad y swm gofynnol. Yn 1858 cytunwyd ar y dyluniad a chomisiynwyd Charles Jordan o’i Gasnewydd i’w fwrw. Codwyd y cloc yn 1859. Mae’n 72 troedfedd o uchder.

Yn 1818 dim ond pedwar adeilad oedd yn y Cylch, a adnabyddid bryd hynny yn ddigon rhesymol fel “Y Sgwâr” – The Tredegar Arms, The Black Prince, The Cambrian Inn a’r Ty Marchnad oedd hefyd yn ladd-dy ac yn ddiweddarach yn gelloedd heddlu. Prif Gwnstabl cyntaf y dref oedd Mr Howman, a fu’n ddiweddarach yn amlwg wrth gwrso’r Siartwyr ar ôl terfysg 1839. Yn 1837 bu terfysg difrifol yn ystod etholiad cyffredinol, pan fu dynion gwaith Harford yn Sirhywi a dynion gwaith Homfray yn Tredegar, a gefnogai ymgeiswyr gwahanol, yn ymladd. Yn yr un flwyddyn agorwyd ysgol yn Neuadd y Dref (cyn Dy’r Farchnad). Cafodd cloch yr ysgol ei bwrw yng Ngwaith Haearn Tredegar a’i symud i Barc Bedwellte yn 1876. Mae’n dal i’w gweld yno. Cwblhawyd y Sgwâr yn 1844 ac yn 1850 cynhaliwyd eisteddfod ysblennydd yn Neuadd y Dref dan nawdd Gwenynen Gwent – Y Foneddiges Llanofer. Mewn blynyddoedd diweddarach daeth Neuadd y Dref yn Glwb N.C.B.

Wedi’i adeiladu yn wreiddiol yn 1809, roedd y Cambrian Inn yn ganolbwynt undebaeth lafur gynnar yn yr ardal. Yn yr 1820 ffurfiwyd sawl grwp megis y “Social Britons” a’r “Oddfellows” gyda’r nod o ymgyrchu yn erbyn llafur plant a’r system ffeirio. Roeddent yn cynnig darpariaethau lles ar gyfer y gwael, rhai a anafwyd neu rai a gafodd brofedigaeth. Yn 1831 ffurfiwyd “Clwb Undeb” o ffermwyr yn y Cambrian gyda phob aelod yn addo peidio dysgu ei grefft i ddieithriaid heb ganiatâd. Trefnwyd darlithoedd, sgyrsiau a darlleniadau hefyd. Roedd Zephaniah Williams, a fyddai wedyn yn arwain Siartwyr Blaenau Gwent, yn siaradwr poblogaidd yn rhoi darlithoedd ar fwyngloddio, awyriant dan ddaear ac wrth, gwrs ddiwygio.

Ym mis Medi 1832 bygythiodd y meistri haearn gau’r gwaith pe na bai Clwb yr Undeb a’r cyfrinfeydd yn cael eu datgymalu. Bu streic saith wythnos i ddilyn a arweiniodd at drechu’r gweithwyr ac ailddyfodiad y Scotch Cattle – oedd yn anelu i gyflawni’r un amcanion â’r Clybiau a’r Cyfrinfeydd drwy drais ac arswyd. Dechreuodd y clybiau ddiwygiad ar ôl Deddf Diwygio 1832, ond ym Mawrth 1834 yn dilyn alltudiaeth y Tolpuddle Martyrs am ffurfio undeb, cyhoeddwyd y “Ddogfen” gan y Meistri Haearn. Roedd yn ofynnol i bob gweithiwr ei llofnodi yn addo torri ei gysylltiadau gyda Chlwb yr Undeb neu ei ddiswyddo ar unwaith. Dinistriwyd y Clybiau, aeth undebaeth llafur dan ddaear a daeth y Scotch Cattle yn fwy penderfynol a mwy treisgar nag erioed.

Ar ôl pasio Cyfraith Tlodion 1834 cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd yn y Cambrian Inn a’r Miners Arms, Stryd yr Eglwys, i drafod dulliau diwygio a caffael pleidlais i bawb. Arweiniodd hyn maes o law at ffurfio Cyfrinfeydd y Siartwyr cyn terfysg 1839.

Trowch i’r chwith i Stryd Haearn/Iron Street gan basio’r Llyfrgell lle mae amgueddfa hanes leol. Mae’r amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ar ddyddiau Sadwrn yn ystod oriau llyfrgell.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn Stryd Haearn yn 1802 a defnyddiwyd ty ar waelod y stryd (lle mae’r orsaf heddlu erbyn hyn) fel barics ar gyfer milwyr a anfonwyd i Dredegar yn ystod terfysg 1816. Roedd y 17eg Marchfilwyr yma yn ystod 1822-23 – yn ystod streic hir a chwerw am gyflog.

Cerddwch 30 llath i lawr Stryd Haearn ac yna troi i’r dde i Stryd y Coroni/Coronation Street, 100 llath ar y chwith i chi mae Cyfrinfa 1 Loyal Order of Moose (5).  Ymfudodd James J Davies i America gyda’i rieni pan oedd yn blentyn. Ar ôl achub y Loyal Order of Moose yn yr Unol Daleithiau, dychwelodd y Dredegar yn 1926 a sefydlu’r Gyfrinfa gyntaf ym Mhrydain.

Trowch i’r chwith i Stryd y Bont/Bridge Street. Ychydig lathenni i lawr y ffordd mae Capel Siloh, a godwyd yn wreiddiol yn 1806, yr Eglwys Fedyddwyr gyntaf yn y dref. Ychydig ymhellach ymlaen, yn yr adeilad ar gornel Rhes Siop/Shop Row (6) oedd Siop Cwmni Haearn Tredegar yn 1802 (a ysbeiliwyd yn nherfysg 1816, y sonnir amdano uchod).

Cerddwch 150 llath i gornel Teras Greenfield a throi i’r dde, mynd yn syth ymlaen am 400 llathen heibio Teras Edwards i Lle’r Parc/Park Place. Ewch i’r de ar hyd Lle’r Parc am 100 llath i lle mae Ffordd Boblogaidd/Popular Road yn troi i’r chwith. Dilynwch y ffordd hon am 350 llathen, ar y chwith mae Eglwys Sant Iago (7), a godwyd ar gost o £3,000 ac a agorwyd ddydd Sul 6 Tachwedd 1891. 150 llathen ymhellach ymlaen, y ty ar ochr dde y ffordd mae The Glen (8). Bu’r awdur Dr A J Cronin yn byw yn The Glen am dair blynedd yn ystod y 1920au. Roedd gan Cronin atgofion hoff am y cyfnod a dreuliodd yn y cymoedd, a seiliodd ei nofel “The Citadel” ar ei brofiadau yng Nghymru. Flynyddoedd ar ôl gadael yn Nhredegar roedd yn y London Club adnabyddus ac aelod arall yn cwyno fod y gweithwyr yn galw am cynnydd yn eu cyflogau. “Chwe cheiniog arall yr awr”, cwynodd. “Does dim bodloni ar y diawliaid. Beth gythraul maen nhw eisiau?” “Dim ond yr hawl i fyw”, atebodd Cronin.

Mae’r ffordd yn troi i’r dde yn sydyn ar y pwynt hwn, ar y chwith mae llwybr yn arwain i fyny’r bryn at Fferm Llyswedog Fawr (9). Yn draddodiadol yn noddfa, mae rhai yn credu fod enw’r lle yn awgrymu ei fod yn llys tywysog lleol neu ryw uned weinyddol leol arall.
Cafodd y fferm yn arw ei throi yn dy tafarn o’r enw “The Firs”.

Dilynwch y ffordd i brynu’r bryn ac ar hyd Teras Whitworth am 600 llath ac yna droi i fyny rhiw serth gydag arwydd ar gyfer Cronfa Sant Iago/St James, cadwch i’r chwith ar y top a dilyn i’r ffordd nes dewch at Gronfa Sant Iago (10). Mae llwybr troed yn mynd o amgylch y Gronfa a medrir mwynhau golygfa banoramig o Dredegar oddi yma. Mae byrddau picnic a stondinau barbeciw hefyd ar gael ar gyfer ymwelwyr.

Dychwelwch i Deras Whitworth a throi i’r chwith, dilyn y ffordd am 350 llath i gyffordd, cymerwch y fforch chwith am 250 llath arall tuag at Neuadd Rhyd, gynt Fferm Y Rhyd (11).

Cerddwch i lawr y ffordd a throi i’r dde ym Mwthyn y Rhyd a Fila Rhyd i Vale View, dilyn y ffordd i lawr y bryn nes dewch at y bont yn Heathfield (12). Gan droi i’r gogledd medrwch weld safle hen Lofa Ty Trist a suddwyd gyntaf yn 1834. Ty Trist oedd enw’r fferm oedd ar y safle cyn i ddiwydiant ddod i’r ardal. Y goel leol yw fod Bwca’r  Twyn yn arfer godro gwartheg y fferm a daeth yn amhosibl i ganfod tenant, a dyna pam y rhoddwyd yr enw i’r fferm! Adeiladwyd Ysgol Gyfun Tredegar a’r Ganolfan Hamdden ar y safle a agorwyd yn 1975.

O’r bont cerddwch dri chwarter milltir ar hyd Cilgant Pochin a Vale Terrace yn ôl i Barc Bedwellte a mynd i mewn i’r parc drwy’r glwyd ddeheuol (13). Rhoddwyd y Parc i bobl Tredegar gan Arglwydd Tredegar yn Ebrill 1901. Ar ôl hynny codwyd y Cysgod Hir gan Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar yn 1910 a chododd Clwb Athletau Parc Bedwellte yr arian ar gyfer y bandstand a agorwyd yn swyddogol yn 1912 gyda chyngerdd gan y Royal Marines Artillery (The Blue Marines).

Cymerwch y llwybr i’r dde a cherdded 400 llath i Dy Bedwellte (14), cyn gartref y teulu Homfray, cyd-sefydlydd Gwaith Haearn Tredegar. Mae’n debyg mai Ty Bedwellte yw’r enghraifft orau o gartref haearn feistr yng Ngwent. Ei enw cyntaf oedd Coedcae y Cynhordy neu Coedcae’r Geifr ac yn ddiweddarach Ty Lodwig Rees, roedd yn fferm fechan gyda bwthyn to gwellt isel ddechrau’r 19eg ganrif – ac mae’r parc presennol yn nodi terfyn ei dir. Prynwyd y fferm yn 1800 gan Samuel Homfray o Benydarren, gyda golwg ar adeiladu preswylfa a pharchir. Adnewyddwyd yr hen dy yn 1809 cyn cael ei ailadeiladu a’i ymestyn yn 1818. Mae chwe erw ar hugain o dir parc o amgylch y Twr, a gynlluniwyd yn wreiddiol fel gardd Iseldireg y medrai rhywun gerdded neu marchogaeth o’i hamgylch heb orfod wynebu clwydi, ffens neu nodweddion allanol.

Trowch i’r chwith ar ddiwedd y llwybr a chymryd yr ail lwybr ar eich chwith a dychwelyd i Fynedfa Rhes Parc.