Gofynnir i chi gymryd gofal ar y ffyrdd. Mae rhai o’r llwybrau yn cynnwys dringo dros dir anwastad ac ni chânt eu hargymell ar gyfer cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio. Ni ddylid ymgeisio llwybr ‘a’ mewn tywydd gwael.
Brynmawr, sydd 1,200 troedfedd uwchben lefel y môr, yw’r dref uchaf yn Ne Cymru. Cafodd ei sefydlu oherwydd dyfodiad diwydiant i’r Cymoedd, gan dyfu fel tref breswyl o amgylch croesfan tramffyrdda ffyrdd tyrpeg yn gwasanaethu gweithiau haearn yn Nantyglo gerllaw.
Dechreuwch yn y maes parcio yng nghefn Neuadd y Farchnad (1). Cynhaliwyd marchnadoedd yma am dros ganrif a maent yn dal yn nodwedd amlwg ym Mrynmawr ar foreau Sadwrn. Gan wynebu Tafarn y ‘Gwesty Bach’ (2) trowch i’r dde i Sgwâr y Farchnad, ar y gornel mae’r llyfrgell (3) a adeiladwyd gydag arian gan Gronfa Carnegie yn 1906. Drws nesaf i hyn mae’r Sefydliad (4) a adeiladwyd yn 1807. Parhewch i fynd ar hyd Sgwâr y Farchnad nes y medrwch weld blaen Neuadd y Farchnad (1894). Adeiladwyd hwn ar dir a gyfrannwyd gan Ddug Beaufort. Fel yr awgryma’r enw, cafodd y neuadd ei hadeiladu yn wreiddiol i gynnal marchnad wythnosol, fodd bynnag bu’n sinema ers dechrau’r 1900au, er fod masnachwyr yn dal i ddefnyddio rhan ohoni. O’ch blaen saif Cofeb Rhyfel y Dref (5).
Cerddwch drwy’r sgwâr i Heol Warwick, rydych yn awr yn dilyn llinell tramffordd Edward Kendall a adeiladwyd yn 1795. Wrth i chi ddod i’r depo bysiau, edrychwch i fyny Stryd Bailey. Roedd y ty mawr drws nesaf i’r Orsaf Dân unwaith yn Synagog (6). Mae hyn yn adlewyrchu’r amser pan oedd gan Brynmawr Gymuned Iddewig gref, a oedd yn uchel ei pharch ymysg pobl y dref. Pan fu terfysgoedd gwrth-Semitaidd yn Nhredegar a Glyn Ebwy yn 1911, adeiladodd pobl Brynmawr – dan arweiniad y Rhingyll Thomas Price – faricedau i ddiogelu cartrefi Iddewon a chadw’r terfysgwyr draw.
Parhewch ar hyd Heol Warwick; i’r dde ohonoch mae uned ffatri fechan o’r 1930au (7). Yn yr adeilad hwn roedd Gwneuthurwyr Esgidiau Brynmawr a roedd yn rhan o ‘Arbrawf Brynmawr’ – cynllun hunan-gymorth gan y Crynwyr i helpu pobl y dref yn ystod y dirwasgiad drwy greu cyflogaeth a gwella’r amgylchedd. I’r chwith ohonoch mae safle Ffatri Rwber Dunlop Semtex (8). Roedd yr adeiladau yn hynod oherwydd cynllun anarferol y toeau; yn wir, pan agorwyd y ffatri yn 1947 roedd ganddo’r to concrit bwa mwyaf yn y byd. (Cynhwyswyd fel rhan o Wyl Prydain, 1951).
Mae’r bwâu (9) sy’n rhan o ffin cymhlyg Semtex yn awgrym o dreftadaeth rheilffordd Brynmawr. Maent yn olion traphont a gariodd ran o Reilffordd y Fenni (1864). Mae’r holl ardal yn ddrysfa o dramffyrdd a llinellau rheilffordd.
Yn ôl ychydig lathenni i’r dde mae mynedfa brics coch anarferol y Parc Llesiant (10). Adeiladwyd hyn yn defnyddio Cronfeydd Lles y Glowyr y 1920au/1930au. Mae’n amlwg ar unwaith fod gwaelod y parc gryn dipyn yn is na lefel y stryd, mae hyn oherwydd iddo gael ei adeiladu ar safle hen Lyn Heathcock – un o gadwyn o lynnoedd oedd unwaith yn bwydo Gwaith Haearn Nantyglo. Mae’r parc yn lle dymunol i gael picnic, gyda nodweddion yn cynnwys ardaloedd chwarae plant a grin bowlio. Wrth edrych i’r de gwelwch Ysgol Gyfun Nantyglo (11) lle bu Gwaith Haearn Bailey unwaith. Cafodd y Tyrrau Crwn a welir yn y pellter eu codi yn 1816. (Gweler ‘Llwybr Treftadaeth Nantyglo).
Dilynwch ffin y parc drwy Cilgant y Parc ac i Stryd Ffynnon. Rydych yn awr yn cerdded ar hyd llinell tramffordd Darren Disgwylfa a adeiladwyd yn 1818 gan y Baileys (meistri haearn yn Nantyglo) i gysylltu Gwaith Haearn Nantyglo gyda’r chwarel carreg galch yn Darren Disgwylfa.
Cerddwch i Neuadd Ambiwlans Sant Ioan (12) a saif ar safle yr Eglwys Tun (Eglwys Cenhadaeth). Cyn hynny galwyd yr ardal yn Tinkers Row ac yn adnabyddus am ei chysylltiadau gyda Gwyddelod oedd wedi ymfudo i’r ardal, a dywedir iddo fod yn ganolbwynt am lawer wylnosau.
Croeswch Stryd George a pharhau ar hyd Stryd Ffynnon. Galwyd y tai ar y chwith i chi (13) yn ‘Dai y Fyddin’ oherwydd iddynt gael eu hadeiladu yn wreiddiol ar gyfer swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth. Roedd y grisiau ar y chwith i chi yn arwain at y Citadel (14). Y stryd gyntaf ar y chwith i chi yw Stryd Hatter – mae’r enw yn adlewyrchu dyddiau diwydiannau bwthyn pan y gwnaed hetiau yma. Wrth i chi deithio i’r dwyrain ar hyd Stryd Ffynnon sylwch ar y bythynnod gwreiddiol ar y chwith i chi a dyfodd ar hyd y dramffordd.
Cymerwch yr ail droad i’r dde i chi; cerdded i lawr y grisiau i Stryd Ffin (Boundary St) (15). Arferai’r adeilad sydd yn awr yn Rhif 23 fod yn dafarn y ‘Brenin Crispin’ a gedwid gan David Lewis, un o arweinwyr lleol y Siartwyr. Roedd mor enwog fel iddo gael ei alw yn Brenin Crispin. Yn dilyn Gorymdaith y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839, fe’i canfuwyd yn cuddio yn y dafarn mewn cist esgidiau.
Ar ben pellaf y stryd mae Carreg y Ffin (16), yr enwyd y stryd ar ei hôl. Mae’r garreg yn nodi’r pwynt lle mae plwyfi Llanelli, Aberystruth a Llangatwg yn cwrdd.
Trowch i’r chwith ac yna i’r chwith eto heibio blaen Ty Heathcote ac ar hyd y llwybr i Stryd Capel. Ar ben y stryd mae Capel Libanus (17) a adeiladwyd yn 1848. Yn 1870, bu digwyddiad trychinebus mewn warws ger y capel. Anfonodd y perchennog fachgen i’r seler i nôl stoc. Oherwydd y tywyllwch aeth y bachgen â channwyll i oleuo’r ffordd. Yn anffodus tarodd gwreichion fareli o bowdwr gwn a bu ffrwydrad enfawr. Dywedwyd iddynt ganfod hanner y bachgen y diwrnod hwnnw, a’r gweddill ohono dridiau wedyn. Cafodd merch ifanc oedd yn chwarae ei stryd hefyd ei lladd gan gerrig yn disgyn arni. Cafodd y ffrwydrad gymaint o effaith ar yr adeiladau cyfagos fel bod yn rhaid cyfnerthu Capel Libanus a Chapel Calfaria gyda phinnau dur sy’n dal i’w gweld heddiw.
Cerddwch yn ôl i Stryd Ffynnon, ac yna barhau i fyny’r grisiau i Stryd y Brenin. Gan edrych i’r chwith gwelwch Gapel Calfaria (18). Cyn codi’r adeilad hwn yn 1832, cynhaliwyd gwasanaethau yn Nhafarn yr Eryr a safai ar gornel Stryd y Brenin a Stryd Fitzroy (gyferbyn). Mae gennych ddewis llwybrau yma: Ar gyfer y rhai ohonoch fydd yn cymryd y llwybr byrrach, trowch i bwynt B yn y testun.
LLWYBR A
Croesewch Stryd y Brenin, troi i’r dde ac yna gymryd yr ail droad i’ch chwith i Stryd Clydach. Eto, yn dilyn llinell dramffordd Darren Disgwylfa. Mae lesau 1821 yn cyfeirio at yr adran hon fel y ‘dramffordd gwaith’ fel cyfeiriad at adneuon mwyn haearn ardal Teras Clydach.
Yn dilyn y stryd wrth iddi wyro i’r dde: ar y gornel mae Ysgol Gymraeg Brynmawr (19), ysgol gynradd Gymraeg a arferai fod yn Ysgol Bechgyn a adeiladwyd yn 1904 ar safle tomen wastraff lefel cyfagos ymhellach tu ôl i’r feithrinfa i’r dde, mae Fflatiau Heddfan (20); yma safai Ysgol yr Eglwys a adeiladwyd tua 1870.
Cerddwch am ychydig gannoedd o lathenni ac yna gymryd y llwybr i’r dde sy’n arwain i lawr ar Eglwys Santes Fair (21) – a gwblhawyd ar 25 Gorffennaf 1900. Mae’r Eglwys a’r Ficerdy yn adeiladau hardd yn sefyll o fewn Mynwent Eglwys Plwyf y Santes Fair.
Ewch yn ôl ar hyd y llwybr a throi i’r dde, yn ôl ar Stryd Clydach. Ymhellach ymlaen, eto ar y dde mae cliriad a elwir yn Pant y Bicwn neu yn Saesneg, Frogs’ Hole(22). Cymerwch saib yma a mwynhau’r olygfa.
Wrth i chi barhau ar eich taith, cymerwch sylw neilltuol o’r bythynnod (23), llawer ohonynt wedi eu hadeiladu ar hyd y dramffordd wreiddiol – mae Rhif 77 yn aros fwy neu lai fel yr oedd bryd hynny.
Ar ddiwedd Stryd Clydach dilynwch y llwybr a chroesi’r ffordd ro, mynd dros y gamfa a chymryd y llwybr sy’n dilyn y gwrych. Roedd y llwybr hwn yn rhan o’r dramffordd, a bydd y cerddwr sylwgar yn gweld rhai o’r cerrig yn dal yn y ddaear.
Dilynwch y gwyriad i’r chwith, a rydych yn awr ar Y Clytiau' (24). Roedd y rhain yn ardaloedd lle byddai pobl yn palu i’r bryn i dynnu glo a mwyn haearn oedd yn agos at yr wyneb. Roedd pob rhan yn cael ei adnabod gan enw’r gweithiwr – e.e. ‘Clwt Dai’.
Mae planhigion ‘Y Clytiau yn ddiddorol; rhwng y grug, rhedyn a’r llus mae aelod llwyd-wyn bychan o deulu cennau – planhigyn nad yw ond yn tyfu mewn ardaloedd gydag awyr eithriadol o bur.
Wrth i chi ddilyn y llwybr edrychwch i lawr y bryn a gweld yr afon Clydach yn mynd ar ei ffordd drwy’r cwm. Mae’r afon yn boblogaidd gyda llawer o adar gwyllt.
Edrychwch i’r dde, ar ochr arall y cwm lle medrwch weld y creithiau a adawyd gan y tramffyrdd, gweithiau patch, lefelau a chwareli a wnaeth gymaint o argraff ar ein tirlun. Lle daw’r llwybr yn gul trowch i fyny a mynd i fyny’r bryn. Ar y top byddwch yn gweld y twmpathau pridd mawr. Mae’r rhain yn rhai diweddar ac fe’u hadeiladwyd fel cysgod ar gyfer y defaid sy’n pori yno.
Trowch i’r chwith yn y top. Wrth i chi gerdded edrychwch tuag at Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Ar ddiwrnod da medrwch weld y postyn sy’n nodi pwynt uchaf y ffordd – tua 1350 troedfedd uwchben lefel y môr.
Cerddwch ymlaen nes i chi ddod at dri llyn ac olion ychydig o furddunnod bychain (a fu’n gartref i gymuned o weithwyr pyllau-clwt) o’r enw y Rhas Fach (25). Trowch i’r chwith yma, croesi’r sianel draeniad yn y llwybr a mynd tuag at y gamfa. Unwaith y byddwch dros y gamfa trowch i’r dde yn sydyn, yn dilyn llwybr dros fryncyn bychan, a byddwch yn gweld pedwerydd llyn yn uniongyrchol i’ch chwith. Gall hyn fod wedi ei ddefnyddio gan lowyr patch fel pwll sgwrio. Roedd y broses yn gyffredin ledled y cymoedd, a chafodd ei ddisgrifio fel Evan Powell fel hyn:-
“After working several years on the 'pick and shovel' process, clearing the edge of the outcrops where convenient and practicable, the gradient of the strata was such that a considerable quantity of topping was to be cleared, and the minerals getting deeper into the earth, the miner was required to exercise his ingenuity and develop all his skill and energy. His next process was to drive small holes into the strata a certain distance, then to work the small pillars that separated the numerous holes, and suspending operations until the overlying strata would of their own weight fall in mass. In the meantime a small pond or reservoir was constructed and filled with water. The pond was situated in such a position that when its bank was broken the water rushed into the fallen mass, separating the mine and rubbish.”
Cerddwch i fyny’r llwybr o’ch blaen nes dewch at ail gamfa (26). Ar y fan hon roedd ‘Gât Slam’, clwyd haearn pum-bar a fyddai’n slamio ynghau tu ôl i’r teithiwr. Arhoswch yma em ennyd, troi 180 gradd a mwynhau’r olygfa wych dros Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Oddi yma medwch weld tair sir Gwent, Powys a Morgannwg.
Croeswch y gamfa a cherdded i fyny’r llwybr. Credir fod hyn yn hen lwybr mulod i’r clytiau. Wrth fynd, sylwch ar y postion ffens anarferol a wnaed o hen slipars reilffordd pren. Fel mae’r llwybr yn gostwng, edrychwch i’r dde. Roedd y cae hwn – (27) unwaith yn drac rasio – yn eiddo Mr Wain (ef hefyd oedd perchennog Gwesty’r Griffin a Cherbydau Ceffylau Griffin). Ddiwedd y 1800au, ‘roedd Parc Wain yn fan ffair flynyddol wych a ddenodd bobl o’r holl drefi cyfagos. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd y cae yn gartref i orsaf fonitro pelydredd dan-ddaear.
Trowch i’r chwith ac edrych ar olion cwt bychan ar wedd cwch gwenyn (28). Adeiladwyd hyn o garreg leol i ddiogelu’r bugail rhag tywydd gaeaf difrifol. Mae hyn ar dir preifat felly peidiwch ceisio cymryd golwg agosach.
Ymhellach ar hyd y llwybr, y tu ôl i’r rheiliau ar eich dde mae’r fynwent (29), a agorwyd yn 1853 gan ‘Fwrdd Iechyd’ y dref. Y Bwrdd oedd y cyntaf o’i fath yn y wlad ac yn ganlyniad gwaith John Thomas a wnaeth lawer i lunio’r dref.
Yng nghornel llaw dde y brif fynwent mae’r fynwent Iddewig (30). Mae’r enwau a arysgrifwyd ar y cerrig beddau yn ein hatgoffa am y gymuned Iddewig fawr a oedd yn byw yn y dref.
Mae’r llwybr o’r ‘Gât Slam’ yn awr yn mynd i lawr y bryn ac yn dod allan ar Stryd Fitzoy. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd, rydych yn awr yn Stryd y Brenin (Parhau ar Lwybr B).
LLWYBR B
Mae Stryd y Brenin yn rhan o ffordd dyrpeg wreiddiol Merthyr i’r Fenni a adeiladwyd yn 1812. Cerddwch lawr Stryd Morgannwg wrth fynd, bu saith tafarn ar yr un ffordd hon ar un adeg. Cerddwch at y groesfan gan sylwi ar yr hen Ysgol Bwrdd (31) a Gorsaf yr Heddlu (32) ar y chwith. Mae’r hen Ysgol bellach yn gartref preifat a Gorsaf yr Heddlu yn adran arall o Ysgol Gymraeg Brynmawr.
Edrychwch ar draws i’r adeilad ar dop Stryd Beaufort, bellach clwb y Lleng Brydeinig (33), a oedd yn wreiddiol yn ‘Westy’r Griffin’ yr oedd Mr Wain yn berchennog arno. Gall hyn fod wedi bod yn safle tafarn coets fawr.
Croeswch y ffordd yn y croesiad cerddwyr a pharhau ar hyd Stryd y Brenin. Wrth i chi gerdded rydych yn sicr o sylwi ar gapel mawr ar y dde (34). Hwn yw Rehaboth, a adeiladwyd yn 1828, y man addoli anghydffurfiol cyntaf yn y dre. Caiff cadair farddol yr Archdderwydd Crwys (a fu’n weinidog yn y capel unwaith) ei dangos y tu mewn (mae allweddi ar gael gan ddiaconiaid ar yr eglwys).
Ychydig ymhellach ymlaen ar eich chwith mae Stryd Somerset. Roedd y ty ar ben y stryd ar y llaw dde yn arfer bod yr Arfdy (35), a ddefnyddiwyd yng nghanol a diwdd y 19eg ganrif fel pencadlys a storfa arfau ar gyfer y milwyr lleol – Gwirfoddolwyr Aberhonddu.
Cyn cymryd y trydydd troad i’r dde i Stryd Bailey Isaf (sy’n rhedeg ar hyd llinell ‘Tramffordd Llangatwg Baileys’ ar draws y ffordd yn Rhif 37 a 38 Styrd y Brenin. Mae’r rhain ymysg yr adeiladau hynaf yn y dref a dyma’n wreiddiol oedd Tafarn Tywysog Cymru (36). Dilynwch Stryd Bailey Isaf yn ôl i’r maes parcio.
Mae’r Fwrdeisdref yn diolch i Gymdeithas Hanesyddol Brynmawr am eu cymorth wrth baratoi’r daflen hon.