Ardal Prif Gynnwys

Tai Crynion Nantyglo

Roundhouse Tower
Mae Tai Crynion Nantyglo yn grair unigryw o’r Chwyldro Diwydiannol. Fe'u hadeiladwyd tua 1816 gan Joseph a Crawshay Bailey, Meistri Haearn Gwaith Haearn Nantyglo, fel caer yn erbyn gwrthryfel arfog gan eu gweithlu.  Ef, yn ymarferol, oedd y castell preifat olaf i’w adeiladu ym Mhrydain. Nid oes unrhyw safle arall yng Nghymru yn atgof mor gryf o’r gwrthdaro chwerw rhwng y meistri haearn a’i gweithwyr. Mae’r tyrrau yn symbol o’r cynnwrf cymdeithasol a esgorodd at derfysgoedd y Siartwyr ac a fyddai maes o law yn creu’r mudiad llafur modern. O’i gadw a’i gyfnerthu’n iawn, mae gan y Tai Crynion botensial enfawr fel canolfan treftadaeth yn adrodd stori gythryblus cyfnod allweddol yn hanes Cymru. Byddai’n adnodd addysgol werthfawr tu hwnt i bobl leol ac yn atyniad i ymwelwyr o bell ac agos.

Mae Tai Crynion Nantyglo a’r adeiladau amaethyddol cysylltiedig yn adeiladau rhestredig Gradd II*.

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk