Mae Arthur llenyddiaeth Cymru yn y canoloesoedd – yn Gymraeg neu yn Lladin – yn arwr Celtaidd nodweddiadol – ffigur garw, egniol, gwych o farbaraidd a welir yn ymladd moch gwyllt a seirff, rhyfelwyr gyda phen cwn a gelynion eraill. Fe’i gwelir yn aml mewn gwrthdaro gyda’r Eglwys, ac mae’n adleisio gwerthoedd a ffordd o fyw cymdeithas arwrol yr “Oesoedd Tywyll”. Medrwn anghofio am y Bwrdd Crwn, menywod mewn trafferthion, twrnameintiau a’r ymerawdwr Cristnogol disglair hyd yn llawer yn ddiweddarach.
Cafodd Historia Brittionum ("Hanes y Brythoniaid") - a briodolir fel arfer i Nennius - ei ysgrifennu mewn Lladin tua 829/30 A.D. 2 ac mae cyfres o Mirabilia neu "Ryfeddodau" yn gysylltiedig ag ef:
Mae rhyfeddod arall yn y wlad a elwir Ergyng. Mae beddrod yno ger ffynnon, a elwir yn Llygad Amr; Amr yw enw’r dyn sydd wedi ei gladdu yn y beddrod. Roedd yn fab y rhyfelwr Arthur, ac fe’i lladdodd ef yno a’i gladdu. Mae dynion yn dod i fesur y beddrod, a weithiau mae’n chwe troedfedd o hyd, weithiau yn naw, weithiau yn ddeuddeg, weithiau yn bymtheg. Pa bynnag fesur a ddefnyddiwch i’w fesur ar un achlysur, ni fyddwch byth eto yn ei gael yr un mesur, ac rwyf wedi ceisio gwneud hynny fy hunan.. 3
Roedd Ergyng yn hen deyrnas Gymreig sy’n awr yn rhan dde-ddeheuol Swydd Henffordd a Llygad Amr yw’r enw Cymraeg gwreiddiol am Gamber Head tua 6 miltir i’r de o Henffordd. Mae’r afon Gamber (Afon Amr) yn llifo oddi yno i Trebumfrey ger Langstone Court. Mae’r nodyn yn sôn am fodolaeth chwedlau lleol yn ymwneud ag Arthur cyn gynhared â’r 9fed ganrif. Beth bynnag yw gwir wreiddiau yr arwr mawr, mae’n amlwg fod Arthur yn ffigur poblogaidd mewn llen gwerin erbyn y dyddiad hwnnw.
Mae straeon eraill diweddarach yn cryfhau’r argraff o boblogrwydd Arthur fel ffigur mewn llen gwerin lleol. Rywbryd yn y 1070au neu 1080au4 ysgrifennodd mynach o Lancarfan ym Morgannwg o’r enw Lifris “fywgraffiad” Lladin o Sant Cadwg, Vita Cadoci. Ymysg y chwedlau am fywyd y sant, mae Lifris yn cynnwys hanes ei eni.
Rhedodd brenin lleol o’r enw Gwynllyw – yr enwyd Gwynllwg (rhan orllewinol Gwent ar ei ôl) i ffwrdd gyda Gwladus, merch Brychan, brenin Mrycheiniog. Yn naturiol, roedd Brychan yn anfodlon gyda’r ymddygiad afreolus hwn ac aeth ar ôl y ddau gyda’i ryfelwyr. Pan oedd bron â dal y cwpl, daeth Gwynllyw a Gwladus at fryn o’r enw Boch Rhiw Carn lle gwnaethant gyfarfod ag Arthur a’i gymdeithion, Cei a Bedwyr, yn chwarae deis! Mewn chwedlau Ffrengig a Seisnig diweddarach cafodd yr arwyr egniol Celtaidd hyn eu trawsffurfio yn Syr Kay sarrug a Syr Bedivere merchetaidd. Mae’r tri arwr egniol (tres heroes strenui) yn trechu Brychan a’i ddynion mewn brwydr waedlyd, ond nid cyn i Arthur ystyried herwgipio Gwladus ar ei gyfer ei hunan! Mae’r cwpl hapus yn mynd ar eu ffordd, a chanlyniad angerdd y cwpl yw Sant Cadwg ei hunan.5
Awgrymwyd fod Boch Rhiw Carn rywle ar Fynydd Llangatwg i ogledd Beaufort 6. Mewn Cymraeg modern, yr enw fyddai Carn Fochriw ac, yn bersonol, rwyf i yn ffafrio un o’r carneddau crwn ar Fynydd Fochriw uwchben Rhymni, efallai Carn y Bugail, y mwyaf ohonynt. Gyda llaw, mae carreg Gristnogol Gynnar gydag arysgrif gerllaw a ddyddiwyd i’r 7fed-9fed ganrif7. Felly yma mae gennym Arthur, Cei a Bedwyr yn ymladd brwydr ar y bryniau llwm uwchben Rhymni – o leiaf yn nychymyg byw clerigwr o’r 11fed ganrif!
Mewn stori arall yn y Vita Cadoci 8 mae Arthur a’r sant mewn anghydfod dros gadfridog o’r enw Ligessawe a oedd wedi llofruddio rhai o ddynion Arthur. Yn olaf, setlir ar bris gwaed o gant o wartheg ar gyfer pob dyn a chaiff y gwartheg eu gyrru i’r afon Wysg i’w trosglwyddo i Cei a Bedwyr. Yn anffodus, wrth i’r gwartheg gael eu harwain drwy’r dwr, cânt eu trawsffurfio yn wyrthiol i sypynnau o redyn. Dyna, medd y Vita, yw pam y galwyd y lle yn “Tref Redinauc”. Dywed mai enw’r rhyd lle bu’r anghydfod yw Rith Guurtebou (Rhyd Gwrthebau).
Tref Redinauc yw Tredynog heddiw ger y Bontnewydd ar Wysg. Nid wyf wedi medru olrhain Rith Guurtebou , ond byddai’n ymddangos ei fod rywle ger pont Wysg yn y Bontnewydd.
Gan symud ymlaen i tua 11009, deuwn ar draws Culhwch ac Olwen, y chwedl ryddiaith Arthuraidd hynaf yn Gymraeg10 - er fod deunydd llawer hyn yn dal i fodoli mewn barddoniaeth. Mae Culhwch ac Olwen yn un o’r straeon yn y casgliad o chwedlau Cymraeg o’r oesoedd canol, y Mabiniogi. Ar ôl hela’r Twrch Trwyth (brenin a drawsffurfiwyd yn faedd mawr) o Iwerddon a thrwy Ddyfed, aeth Arthur a’i ddynion i un gornel o’r byd:
And then Llwydawg went on to Ystrad Yw. And there the men of Llydaw met with him, and he then slew Hir Peisawg king of Llydaw, and Llygadrudd Emys and Gwrfoddw, Arhtur's uncles, his mother's brothers.11
Caiff Ystrad Yw heddiw ei gynrychioli gan bentref Llanbedr Ystradwy ger Crughywel i dde’r Mynydd Du, ond roedd yr enw unwaith yn gorchuddio ardal llawer ehangach yn cynnwys plwyfi Crughywel, Llanbedr Ystradwy a Phatrisio, Llanfihangel Cwm Du a Thretwr, Llangatwg a Llangenni, Llanelli a Llangynidr a Brynmawr.12 Tretwr oedd canol arglwyddiaeth Normanaidd Strat D'Eue 13.
Ar y pwynt hwn yn yr helfa, ymddengys fod Arthur o’r diwedd ar ben ei dennyn:
And Arthur said to the Warriors of this Island: "Twrch Trwyth has slain many of my men. By the valour of men, not while I am alive shall he go into Cornwall. I will pursue him no further, but I will join with him life for life (i.e. fight to the death). You do what you will." And by his counsel a body of horsemen was sent, and the dogs of the Island with them, as far as Ewyas, and they beat back thence to the Severn, and they waylaid him there with what tried warriors there were in this Island, and drove him by sheer force into Severn... between Llyn Lliwan and Aber Gwy.14
Roedd Ewyas yn wreiddiol yn gwmwd yn Ergyng (gweler uchaf) ac yn gorchuddio rhan ddwyreiniol y Mynydd Du. Mae’n awr wedi ei rannu rhwng Cymru a Swydd Henffordd, ond mae’r enw yn goroesi ym mhentref Ewias Harold yn Swydd Henffordd. Yn Nyffryn Ewias mae Priordy Llanddewi Nant Hodni. Mae’n sicr gen i nad cyd-ddigwyddiad yw fod bedd siambr Neolithig gwych a elwir fel Carreg Arthur ar ymylon dwyreiniol Ewyas hynafol. Mae Aber Gwy yn siarad drosto’i hunan, efallai fod y chwedl yn cyfeirio at Bwynt Beachley dan ben Cymreig hen Bont Hafren. Yn anffodus i Arthur, mae’r baedd mawr yn cyrraedd Cernyw cyn cael ei hela i’r môr gan y cwn hela cyflymaf yn y byd, Aned ac Aethlem, Ni chlywir dim mwy am unrhyw un ohonynt.
Mae LIyn Lliwan yn rhoi rhywfaint o broblem. Mae’n amlwg o’r darn uchod fod y llyn hwn rywle yn ymyl yr Hafren, ac mewn pennod gynharach yn y chwedl mae Eog Llyn Lliwan yn arwain Cei ac un arall o ryfelwyr Arthur at Kaer Loyw (Caerloyw) i ryddhau carcharor. Un arall o’r “Rhyfeddodau” a ddisgrifiwyd gan Nennius yn y 9fed ganrif oedd Oper Linn Liuan15 sydd yn ddi-os yn gyfeiriad arall at yr un lle. Hefyd, mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Lin Liguaam yn ei Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain")15 a ysgrifennwyd tua 1135-81 17. Hwn oedd y gwaith a gyflwynodd yr ystrydebau cyfarwydd o’r hyn y mae llawer yn meddwl amdano heddiw fel y chwedl Arthuraidd: y Bwrdd Crwn, milwyr mewn arfwisgoedd a’r holl ddigwyddiadau marchogol eraill. Mae Arthur yn sôn am “bwll yn y rhannau o Gymru sy’n agos at yr Hafren”:
When the sea flows into this pool, it is swallowed up as though in a bottomless pit;.. .if the people of all that region should come near, with their faces turned towards it,.. .it is only with difficulty, if, indeed, at all, that they have the strength to avoid being swallowed up by the pool. If, however, they turn their backs, their being sprinkled has no danger for them.18
Awgrymwyd19 y dylid chwilio am y llyn rywle ar Nant Llymon sy’n hedfan o Cross Ash yng nghanol Gwent nes y mae’n cyrraedd yr Afon Trothy yn Fferm Cwrt, ond mae geirdarddiad Oper Lin Liuan yn gwneud hyn yn annhebygol 20 ac mae Llyn Lliwan yn parhau yn ddirgelwch.
Sieffre, wrth gwrs, sy’n dodi prif lys a phencadlys Arthur yn Urbs Legionium, Caerllion:
on the river Usk, not far from the Severn Sea, in a most pleasant position, and being richer in material wealth than other townships,... flanked by meadows and wooded groves, they had adorned the city with royal palaces, and by the gold-painted gables of its roofs it was a match for Rome.21
Medrir gweld dylanwad Geoffrey ar Trioedd Ynys Prydain22. Mae’r trioedd yn gasgliad neu fynegai o gymeriadau, straeon a digwyddiadau chwedlonol wedi eu trefnu mewn grwpiau o dri. Yng Nghymru yn y canol oesoedd lle roedd y traddodiad llafar yn bennaf, roeddent yn ddull i’r beirdd a’r cyfarwyddion i goffau eu storfa enfawr o chwedlau brodorol, hanes, barddoniaeth a geneoleg y disgwylid iddynt ei meistroli. Mae’r llawysgrifau cynharach yn dyddio o’r 13eg a’r 14eg ganrifoedd ond mae’n debygol y casglwyd y triawdau ynghyd i ddechrau rywbryd yn y 21ain ganrif.
Mae Triawd 8523, a gadwyd mewn llawysgrif yn dyddio’n ôl i tua 1400-1500, yn cofnodi “Caerllion ar Wysg” fel y cyntaf o “dri phrif lys” Arthur, gyda’r llysoedd eraill yn Celli Wig yng Nghernyw a Phenrhyn Rhionydd yn y Gogledd.5
Enw Triawd5126 yw “Tri Gwr Dianrhydedd Ynysoedd Prydain” ac yn dweud sut y rhoddodd Gwrtheyrn Gorthenau:
first gave land to the Saxons in this Island, and was the first to enter into an alliance with them. He caused the death of Custennin the Younger, son of Custennin the Blessed, by his treachery, and exiled the two brothers Emrys Wledig and Uthur Penndragon from this Island to Armorica, and deceitfully took the crown and the kingdom into his own possession. And in the end Uthur and Emrys burned Gwrtheyrn in Castell Gwerthynyawn beside the Wye, in a single conflagration to avenge their brother.
Dynodwyd y fan27 fel y fryngaer ar Little Doward Hill ym mhlwyf Gannerw, ychydig dros y ffin ryw ddwy filltir i’r gogledd o Drefynwy. Roedd yn ddiddorol nodi ein bod yn yr un fan ar Great Doward Hill yn canfod “Ogof Brenin Arthur” a gafodd ei thyllu (gyda chanlyniadau siomedig) yn yr 1870au.28
Mewn llawysgrif Gymraeg arall tua 160029, a ysgrifennwyd gan y gramadegwr Siôn Dafydd Rhys (John Davies, 1534-161730) mae casgliad o chwedlau am gampau Arthur yn lladd cewri ledled Cymru. Mae llawer o’r chwedlau hyn yn esbonio tarddiad enwau lleoedd. Felly, roedd Cribwr Gawr yn byw yng Nghastell Cefn Cribwr 31 sef pam y cafodd y lle ei enw, ac ati. Mae rhai o’r straeon yn eithaf manwl, tra nad yw eraill ond yn rhoi nodyn byr iawn. Dywedir fod dim llai na saith o’r cewri wedi byw yng Ngwent:
Bwch Gawr lived in a place still called Castell Bwch between Caerleon on Usk and Llan Ternan, and he also lived in another Castell Bwch between Pentref Bach and the Henllys in the county of Gwent. And there were sons to this Bwch, namely, Ernallt Gawr, whose dwelling was in the place still called Castell Ernallt in Llan Gattwg in the Usk valley. Clidda Gawr in the parish of Bettws Newydd, and his abode in the place called Cloddeu Caer Clidda, and that land today is called Tir Clidda in the parish of Llanarth, Buga Gawr, and his abode in the place still called Castell Bryn Buga, Trogi Gawr dwelt in the castle still called Trogi by Coed Gwent. Gybi Gawr, whose home was in the castle still called Castell Cybi. Crou Gawr, his abode in the place still called Castell Tir Crou in the parish of Bettws Newydd. All these were the sons of Bwch Gawr within the county of Gwent.32
Mae Henllys a Pentref Bach ychydig i’r gogledd orllewin o Gasnewydd ac mae Castell y Bwch yn dal i’w weld rhyngddynt. Llan Ternan yw’r hyn a alwem yn awr yn Llanfihangel Llantarnam ger Cwmbran a medrai’r Castell Bwch arall fod yn fryngaer ger Coedwig Lluest yng Nghaerllion ar y twmp ar lannau’r Afon Lwyd ger Ponthir. Castell Ernallt yw Castell Arnold ger Llangatwg ar Wysg tua dwy filltir a hanner i’r de ddwyrain o’r Fenni – cafodd y lle ei losgi gan William de Braose, arglwydd Normanaidd y Fenni, yn 1175. Mae Betws Newydd a Llanarth yn dal i gael eu hadnabod yn ôl yr enwau hynny a chaf fy nhemtio i gredu fod Cloddeu Caer Clidda yr un lle â bryngaer Coed y Bwnydd ar Fynydd Clytha. Gall Castell Bryn Buga gyfeirio un ai at y castell ar gyrion y dref neu’r fryngaer fawr ar fryn Gwehelog Fawr. Coed Gwent yw Wentwood ac mae Cas Troggy, Castell Trogi, yn dal i’w gweld. Gall Castell Cybi gyfeirio un ai at weddillion Castell Llangybi (ddwy filltir i’r de o Frynbuga) neu i’r mwnt gerllaw. Nid wyf wedi medru olrhain Castell Tir Crou ond mae’r mwnt uwchben Betws Newydd uchod yn bosibilrwydd. Ymddengys fod Gwent ar ei hanterth yn nyth hynod i gewri.
Edward Lhuyd (1660-l70933) oedd ceidwad Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen yn ystod y 1690au a dechrau’r 1700au 34 ac fel rhan o’i waith eang a blaengar anfonodd holiaduron at bob plwyf yng Nghymru yn 1696 yn cwmpasu pob agwedd o hynafbethau lleol a hanes naturiol. Ymysg yr atebion a gafwyd oedd un gan Mr Progers yn Llantilio Bertholau (tua milltir i’r gogledd o’r Fenni) a ddywedodd:
It (the parish) is bounded on the W(est) with the mountaine called fforest Moel (the summit or top of which mountain is called Pen y val, where are certain stones called Cadeir Arthur)... There is upon Skerid Vawr a great stone shaped like a house called Cist Arthur, in English Arthur's Chest, as Cadeir Arthur is Arthur's Chair.35
Roedd Cadeir Arthur felly ar Mynydd Pen y Fâl, sy’n edrych dros Ystrad Yw o Culhwch ac Olwen, cyd-ddigwyddiad diddorol. Mae Cist Arthur ar Ysgyryd Fawr yn sefyll dros y Fenni. Mae’n amlwg fod Arthur yn elfen bwysig yn chwedlau lleol Gwent hyd y 1690au.
Dim ond dau enw lle Arthuraidd arall a ganfu ymchwil pellach, sef Maes Arthur tua hanner milltir i’r de orllewin o Basaleg a Ty Arthur ger safle hen Lofa Roseheyworth yn Abertyleri (y ddau ohonynt ysywaeth ddim yno bellach). Mae’n debygol fod y ddau enw hyn yn adlewyrchu perchnogion neu adeiladwyr y nodweddion eu hunain yn hytrach na’r erw mawr ei hunan.
Cawn felly ryw syniad o hyd a dyfalbarhad chwedlau tirlun Arthuraidd yn Ne Ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos yn Swydd Henffordd yn ogystal â syniad o’r dylanwad a roddodd hyn dros enwau lleoedd yr ardal. Cynhwysir rhestr lawn yn nhrefn yr wyddor o’r lleoedd y sonnir amdanynt yn yr erthygl hon gyda’r nodiadau.36
NODIADAU
1. Morris, J., (1980) Nennius. Geiriad a chyfeithiad.
2. Dumville, D. N., 'The Historical Value of the Historia Brittonum', Arthurian Literature
IV, (1986), tt.21/2.
3. Morris, op cit., t.42.
4. Davies, W., (1982), Wales in the Early Middle Ages, t.208.
5. Wade-Evans, A. W., (1944), Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, tt.24-9. Testun
a chyfieithiad.
6. Rees, W J., (1853) Lives of the Cambro-British Saints,t.312 n.1.
7. Nash-Williams, V. E., (1950) The Early Christian Monuments of Wales, tt.132,135.
8. Wade-Evans, op.cit., tt.68-75
9. Evans, D. Simon., "Culhwch ac Olwen", 'Tystiolaeth yr laith', Ysgrifau Beirniadol, XIII, (1985), t.113.
10. Jones, G. & Jones, T., (1977), The Mabinogion, tt.95-136. Cyfieithiad. I weld y testun gwreiddiol gweler Evans, I. G., (1907), The White Book Mabinogion, tt.226-54.
11. Jones & Jones, op.cit., t.134.
12. Rhys, J., (1901), Celtic Folklore, Welsh and Manx, Cyfrol 11, t.516.
13. loc.cit.
14. Jones & Jones, loc.cit.
15. Morris, op.cit., tt.40-I.
16. Wright, N., (1984), The Historia Regum Britanniae of Geoffrey of Monmouth, t.106. Testun gwreiddiol.
17. Ibid., t.xvi.
18. Thorpe, L., (I 969), ~ The History of the Kings of Britain, p.197. Cyfieithiad.
19. Tatlock, J. S. P., (1950), The Legendary History of Britain, t.76.
20. Jackson, K. H., 'Rhai Sylwadau ar "Kulhwch ac Olwen"', Ysgrifau Beirniadol, XII, (1982), t.19.
21. Thorpe, op.cit., tt.202-3.
22. Bromwich, R., (1977), Trioedd Ynys Prydein. Testun a chyfieithiad.
23. Ibid,t.211.
24. Peniarth MS.50, ibid, p.xxxi.
25. Ymddengys Aberffraw yn y fersiwn hynaf, ibid, t.228.
26. Ibid, tt.131-3.
27. Lloyd, J. E., 'Geoffrey of Monmouth', English Historical Review, LVII, (1942), tt.460-8.
28. Archaeologia Cambrensis, 1872, tt.74-5.
29. Owen, H., 'Peniarth Ms. 118, fos. 829-837' Y Cymmrodor, XXVII, (1917) tt.115-52. Testun a chyfieithiad.
30. Lloyd, J. E., et al. (gol 1959), The Dictionary of Welsh Biography, tt.845-6.
31. Owen, op.cit.,t.141.
32. Ibid, t.143.
33. Lloyd, (1959), tt.565-7.
34. Ellis, R., 'Some Incidents in the Life of Edward Lhuyd', Transactions of the Hon. Soc. of Cymmrodorion, 1906-7, tt.1-35. Lhwyd, E., (1909), Parochialia, (Morris, R. A. gol.), III, tt.72-3.
36. Cyfeiriadau NGR.
Y Fenni SO 302 140 Llangatwg ar Wysg SO 211 179
Bassaleg ST 277 871 Llangeni SO 241 182
Pwynt Beachley ST 549 903 Llangybi ST 365 975
Beaufort SO 165 117 Llangynidr SO 155 195
Betws Newydd SO 359 062 Priordy Llanddewi Nant Hodni SO 288 277
Caerllion ST 339 907 Llantilio Bertholau SO 312 614
Carn y Bugail SO 101 036 Maes Arthur ST 267 861
CastellArnold SO 319 101 Mynydd Fochriw SO 056 047
Cas Troggy ST 416 953 Mynydd Llangatwg SO 187 147
Mynydd Clytha SO 366 068 Y Bontnewydd ar Wysg ST 380 949
Fferm Cwrt SO 443 140 Patrisio SO 279 225
Crughywel SO 217 814 Pentref Bach ST 285 921
Cross Ash SO 412 197 Pen y Fal SO 265 194
Doward Hill (Little)SO 540 160 Ponthir ST 319 926
Gamber Head SO 495 296 Rhymni SO116 072
Gwehelog Fawr SO 379 038 Glofa Roseheyworth SO 206 056
Henllys ST 270 937 Ysgyryd Fawr SO 330 180
Ogof y Brenin Arthur SO 545 156 Tredynwg ST 379 948
Coedwig Lluest ST 323 914 Tretwr SO 185 214
Llanarth SO 376 108 Usk ST 377 006
Llanbedr Ystradwy SO 239 205
Llanfihangel Cwm Du SO 181 239
Llanfihangel Llantarnam ST 307 33