Ardal Prif Gynnwys

Mynwent Colera Cefn Golau

Cholera Cemetery, Tredegar
Mae’r safle anghysbell hwn, ar y mynydd llwm i’r gorllewin o Dredegar, yn un o’r safleoedd tristaf yn hanes de Cymru. Er mai ychydig o gerrig beddau sydd ar ôl, mae’r safle yn gyflwyniad unigryw i un o’r penodau mwyaf poenus yn hanes Blaenau Gwent. Yma mae olion daearol o leiaf ddau gant o bobl a fu farw o golera. Bu dau epidemig colera sylweddol yn Nhredegar, y cyntaf yn 1832-33 ac un arall ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach yn 1849. Bu nifer lai o’r haint yn y dref yn 1866 hefyd.

Heddiw oddeutu 26 o gerrig beddau sy’n dal i sefyll ar y safle, gyda darnau o rai eraill. Mae’r tywydd garw wedi treulio llawer o’r arysgrifau.

Fodd bynnag, mae’r cerrig sydd ar ôl a’u harysgrifau yn rhoi  cyfoeth o wybodaeth am hanes diwydiannol cynnar yr ardal a rhai o’i phrofiadau cymdeithasol. Dengys y dyddiadau ar y cerrig y defnyddiwyd y fynwent anghysbell yn gyntaf i gladdu dioddefwyr achosion colera 1832-33, a dilynwyd hyn gan rai 1849 a 1866.

Mae llai o gerrig beddau o 1832 ond medrir eu gwahaniaethu o’r cerrig diweddarach. Mae’r cerrig pen yn llai a’r cwrb a’r cerrig troed wedi eu gwneud o ddarnau. Mae’r sgript ar y cerrig yn amlwg ac mae saernïaeth gain yn eu cynllun blodeuog.

Mae cerrig 1849 yn fwy niferus ac yn llawer mwy na rhai 1832. Mae’r arysgrifau yn Gymraeg neu’n Saesneg gyda chyfuniad o’r ddau. Misoedd Awst a Medi 1849 sydd ar y rhan fwyaf pan oedd yr epidemig ar ei anterth. Mae dyddiadau marwolaethau y tu allan i’r blynyddoedd colera yn dangos i’r gwyr a gwragedd a oroesodd yr epidemig ddewis gael eu claddu gyda’u hanwyliaid, er i’r fynwent ddod yn dabw ymysg pobl leol.

Un garreg dyddiedig 1866 sydd ar ôl o’r epidemigau diweddarach.

Mae Mynwent Cefn Golau yn gofeb hynafol a restrwyd o bwysigrwydd cenedlaethol a chaiff ei diogelu gan y gyfraith.


Epidemig Colera - Tredegar 1849
 
Daeth haf hir a sych 1849 i Dredegar ymysg ofn mawr a achoswyd gan y newyddion fod colera yn Rhymni ym mis Gorffennaf ac yn Nantyglo ym mis Awst. Byddai llawer o sôn yn y dref am yr achosion erchyll yn Merthyr. Nid oedd colera yn beth dieithr yn Nhredegar, ar ôl iddo “ymweld” â’r dref yn 1832 pan ddefnyddiwyd y safle yng Nghefn Golau am y tro cyntaf. Roedd y marwolaethau poenus a achoswyd gan yr haint wedi gadael ofn ymysg y bobl, a waethygwyd gan y ffaith fod meddygon yn dal yn methu deall beth oedd achosion yr afiechyd.

Cadarnhawyd yr ofnau gwaethaf ym mis Awst pan ddaeth T Price, casglwr tollau, a oedd yn byw yn Stryd Siarl, a ystyrid yn un o’r lleoliadau iachaf, y cyntaf yn y dref i farw o’r haint.

Mewn llai na mis go brin fod stryd yn yr holl dref nad oedd wedi effeithio arni. Roedd “Brenin yr Arswydau” wedi cael gafael ar y dref. Dechreuodd yr awdurdodau waith glanhau a dosbarthwyd calch a diheintydd.  Bu’r meddygon yn chwilio’n wyllt am iachâd, gan geisio pob remedi y gwyddent amdanynt, ond heb lwyddiant. Trodd llawer o bobl at grefydd fel achubiaeth a roedd y capeli lleol yn llawn yn ystod yr achosion. Dechreuodd pobl orchuddio eu hunain gydag eli a defnyddio dulliau anarferol o geisio iachâd. Parhaodd nifer y marwolaethau i gynyddu. Dechreuodd pobl adael eu cartrefi a ffoi i gefn gwlad. Cadwodd y rhai oedd ar ôl ymaith o angladdau dioddefwyr colera. Arhosodd pobl yn eu tai ac edrych ar y gorymdeithiau o bell. Gymaint oedd yr ofn fel ei bod yn anodd canfod digon o bobl i helpu i gladdu y rhai a fu farw. Roedd cymaint o stigma yn gysylltiedig â’r afiechyd fel fod rhai teuluoedd yn claddu eu meirw liw nos ar ochr y mynydd.

Yr hyn oedd yn neilltuol o frawychus i bobl oedd y medrai teuluoedd cyfan a oedd yn ffit ac yn iach yn y bore fod yn farw erbyn y nos. Cyrhaeddodd yr afiechyd ei anterth ym misoedd Awst a Medi ond gyda dyfodiad tywydd gwlyb a glawog, dechreuodd yr afiechyd ddiflannu. Dechreuodd llawer a chwiliai am achos yr afiechyd feio’r mewnlif o Wyddelod tlawd, llawer ohonynt mewn cyflwr gwael ac yn cario afiechydon llai. Fodd bynnag roedd barn addysgedig yn gyflym yn dod i’r gasgliad mai amodau brwnt a blêr oedd prif ffynhonnell yr afiechyd.

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk