Mae’r farn archeolegol bresennol yn nodi fod mynwent fwy neu lai gron Sant Illtyd yn arwydd o ddyddiad sefydlu cyn y Normaniaid (Brooke 1980, 72 et passim) ac mae’r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf ar yr eglwys mewn cerdd o’r 9fed neu 10fed ganrif Llyfr Du Caerfyrddin (Jarman 1982, lix). Mae hon yn llawysgrif fechan a ysgrifennwyd tua 1250. Mae’r llawysgrif yn waith un dyn, mynach ym Mhriordy Sant Ioan yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cynnwys casgliad o farddoniaeth yn llawer hyn na’r llawysgrif ei hunan.
Ymysg y cerddi mae Englynion y Beddau a ysgrifennwyd yn y nawfed neu ddegfed ganrif. Mae’r cerddi yn rhestru beddi arwyr Cymreig, bwrlwm bywyd yr arwr yn y gorffennol yn cael ei gymharu gyda thawelwch ei fedd. Mae carneddi neu gromlechi ymysg llawer o’r lleoedd y medrir eu hadnabod. Yn eu plith mae::
Gwydi gurum a choch a chein.
A. goruytaur maur minrein.
in llan helet bet. owein. (ibid., 37)
Ymddengys mai’r “bedd” y cyfeirir ato yn yr ardd yw’r twmpath mawr ger yr eglwys. Ystyrir hyn fel arfer fel mwnt Normanaidd, yn dyddio mae’n debyg i’r 11eg neu 12fed ganrif. Mae’n fwy na phosibl i’r mwnt gael ei adeiladu dros dwmpath cynharach – mae’n debyg yn garnedd neu feddrod cynhanesol.
Yr Owain y cyfeirir ato yw mab Urien – person go iawn a dyfodd yn arwr o fri mewn rhamantau canoloesol. Mewn bywyd go iawn, yr oedd yn fab Urien, brenin Rheged yn y 6ed ganrif. Roedd Rheged yn deyrnas Gymreig oedd yn cynnwys y Solway Firth, Caerliwelydd a’r holl ardal a gaiff ei galw yn Cumbria heddiw. Ymladdodd Owain ac Urien yn ddewr yn erbyn y goresgynwyr Eingl-Sacsonaidd a chaiff eu hanesion eu cofnodi mewn cerddi gan Taliesin, bardd eu llys. Ar ôl ei farwolaeth, daeth Owain yn arwr chwedlonol, symudodd y straeon amdano i Gymru a daeth yn gysylltiedig gyda’r cylch chwedlau Arthur. Ef yw arwr y chwedl o’r 12fed ganrif “Arglwyddes y Ffynnon”, un o straeon y Mabinogi (Stephens 1998, 546). Mae’n ddirgelwch pam fod cerdd mor gynnar yn cysylltu Owain gyda Llanhiledd.
Roedd Heledd hefyd yn berson go iawn a fu’n byw yng ngogledd Powys ddechrau’r 7fed ganrif. Roedd Cynddylan ei brawd yn frenin Powys nes iddo gael ei ladd gan yr Eingl-Sacsoniaid. Ymddengys yn Canu Heledd, cyfres eraill o gerddi a ysgrifennwyd yn y 9fed neu 10fed ganrif. Y cerddi yw uchafbwyntiau barddonol rhan o gylch rhyddiaith a gollwyd.Ynddynt, mae Heledd yn galarnadu ar ôl dinistrio ei chartref a marwolaeth Cynddylan a’i brodyr eraill. Ymddengys ei bod yn beio’i hunan am y trychineb a ddaeth i’w rhan (Stephens 1998, 87).
Sefwch allan, vorynnyon, a syllwch
Gyndylan werydre.
Llys Benngwern neut tande.
Gwae ieueinc a eidun brotre. (Williams 1935, 33)
Unwaith eto, ni wyddys pam y dylai’r eglwys fechan hon ar ochr mynydd moel yng Ngwent fod wedi ei chysegru i dywysoges o Bowys yn y 7fed ganrif.
Gyda sefydliad yr Abaty Sistersaidd yn Llantarnam rywbryd rhwng 1175 a 1179, daeth y plwyf dan reolaeth y Mynachod Gwyn (Davies 1953, 98). Roedd y mynachod yn berchen maenor Wentsland a Bryngwyn oedd yn cynnwys tir ym mhlwyfi Llanhiledd, Trefethin ac Abersystryth. Fe’i galwyd yn Fynachod Gwyn oherwydd lliw eu gwisgoedd, a roeddent yn dewis safleoedd anghysbell ar gyfer eu habatai a roeddent yn ymroddedig i fyw syml. Gan ddefnyddio maenorau cyfagos i ffermio eu tir, daethant yn amaethwyr pwysig, gan redeg gyrrau enfawr o ddefaid dros fynyddoedd Cymru. Roedd y maenorau, yn dyddio’n bennaf o’r 12fed ganrif, yn cynnwys llociau gyda thai yd, beudai, llety ar gyfer brodyr lleyg a gweithwyr cyflog ac, mewn rhai achosion, gapel (Cowley 1977, 78). Roedd Fferm Arail yn faenor arall i Abaty Llantarnam.
Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod y Sistersiaid yn adeiladu capeli ar neu yn ymyl eu maenorau (Williams 1976, 81-82) a maent yn debygol eu bod yn gyfrifol am adeiladu’r eglwys bresennol rywbryd yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif (Rees 1948). Mae’n debyg fod y rhan fwyaf o ffabrig yr eglwys yn perthyn i’r cyfnod hwnnw, er y medrai’r bedyddfaen fod wedi bod yn yr adeilad gwreiddiol cyn-Normanaidd.
Ymwelodd John Wesley â’r plwyf yn Ebrill 1740 yn ystod ei ail ymweliad i Gymru. Ddydd Mawrth 8 Ebrill, yng nghwmni Howell Harris, teithiodd o Bontypwl i Lanhiledd a phregethu yno. Arhosodd dros nos a’r bore wedyn darllenodd weddïau a phregethu yn eglwys Sant Illtud, cyn teithio i Gaerdydd (Williams 1971, 6-7).
Ym mis Hydref 1799, ymwelodd yr Archddiacon Coxe â’r eglwys yn 1799 ar ei daith hanesyddol o Sir Fynwy:
“At Lanhiddel we baited our horses at a public house, and strolled, in the midst of a violent shower, to the church, which is situated on the summit; it is a small but ancient gothic building, constructed in the most simple form, without a tower of belfry, the bells being placed under the roof, and the ropes descending into the church. The church yard is panted with twelve old yews, which surround the church, and add to the solemnity of the scene: it is dedicated to St. Ithel, with whose merits and genealogy I am wholly unacquainted.”(Coxe 1801, 252-3)
Bibliography
Baring-Gould. S. & Fisher. J. 1911. The Lives of the British Saints, Vol III, p.254.
Brooke. 0. 1988. 'The Early Christian Church In Gwent', The Monmouthshire Antiquary, Vol V, Part 3, pp.72, 75, 84.
Cowley, F. G. 1977. The Monastic Order in South Wales 1066-1349 (Cardiff: University of wales Press).
Coxe, W. 1801. An Historical Tour in Monmouthshire, Vol. II (repr. 1995 Merton Priory Press).
Davies, E.T. 1953. An Ecclesiastical History of Monmouthshire, Part I, p.98.
Jarman, A.O.H. 1982. Llyfr Du Caerfyrddin (Cardiff: University of Wales Press), p. lix.
Jones. T. 1952. Brut y Tywysogion: Peniarth MS 20 Version. (Cardiff: University of Wales Press) pp.4. 135
Rees, W. 1948 South Wales and the Border in the 14th Century.
Stephens, M. 1998. The New Companion to the Literature of Wales (Cardiff: University of Wales Press).
Williams, A. H. 1971. John Wesley in Wales 1739-1790: Entries from his Journal and Diary relating to Wales (Cardiff: University of Wales Press).
Williams. D.H. 1976. White Monks in Gwent and the Border (Pontypool: Hughes and Son), pp.81 -2
Williams, I. 1935. Canu Llywarch Hen (Cardiff: University of Wales Press).