Mae cerbyd sydd wedi ei adael yn un lle nad oes gan y perchennog unrhyw fwriad o ddychwelyd. Mae gan yr Adran Iechyd yr Amgylchedd bwerau i symud cerbydau sydd wedi eu gadael a mynnu cael eu had-dalu am y costau os daw’r perchennog i’r fei ar ôl i’r cerbyd gael ei symud.
Os hoffech roi gwybod i ni am gerbyd sydd wedi ei adael er mwyn ein caniatáu ni i ymateb i’ch cwyn yn gyflym ac effeithlon, gofynnwn i chi i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
(a) A oes gan y cerbyd ddisg treth ffordd ddilys?
(b) Disgrifiad o’r cerbyd gan gynnwys - rhif cofrestru, registration number, colour, gwneuthurwr y car a’r model
(c) Disgrifiad manwl gywir o leoliad y cerbyd gan ddefnyddio’r canlynol fel canllaw
-
tu allan i annedd penodol
-
yn y blaen neu’r tu nôl
-
defnyddiwch dirnodau lleol





