Rheoli pla

O’r 15fed o Ebrill 2013 bydd y gwasanaeth rheoli plâu yn cael ei ddarparu ar ran Blaenau Gwent gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CCBC) fel rhan o gytundeb gwaith cydweithredol.

Ceir manylion am yr amrywiaeth o wasanaethau ac unrhyw gostau sydd ynghlwm â’r triniaethau isod.
 
Ni chodir tâl am lygod mawr, chwilod duon neu fygiau gwlâu a gwneir consesiwn o ostyngiad o 50% ar gyfer y sawl sy’n derbyn cymhorthdal incwm neu warant credyd pensiwn.
 
Gwasanaethau taladwy ar gyfer gwasanaethau rheoli plâu mewn adeiladau domestig:
 

Gwasanaeth Rheoli Plâu Domestig

Cost fesul triniaeth *

Consesiwn **

Amser Ymateb Targed

Llygod mawr

Am ddim

Dim

Tu mewn: diwrnod gwaith nesaf

Tu allan: 5 niwrnod gwaith

Chwilod duon

Am ddim

Dim

5 niwrnod gwaith

Bygiau gwlâu

Am ddim

Dim

5 niwrnod gwaith

Cacwn (neu wenyn)

£42

50%

Tu mewn: diwrnod gwaith nesaf

Tu allan: 5 niwrnod gwaith

Chwain

£42

50%

Tu mewn (ac eithrio’r atig): diwrnod gwaith nesaf

Atig: 5 niwrnod gwaith

Llygod

£60

50%

5 niwrnod gwaith

 Nodiadau:
 *  costau’n daladwy ar yr adeg o fwcio, mae’r holl gostau’n cynnwys TAW
 ** consesiynau: mae cwsmeriaid sy’n derbyn cymhorthdal incwm a gwarant credyd pensiwn yn derbyn gostyngiad o 50%

  
Bydd y triniaethau uchod yn cael eu gwneud mewn adeiladau masnachol am  isafswm o £40 yr awr ynghyd â chostau’r deunyddiau (ac eithrio TAW).

Gellir cael manylion am wasanaethau rheoli plâu eraill sydd ar gael ar gais trwy ffonio’r rhif isod.

Trefnu apwyntiad rheoli plâu

I wneud apwyntiad ar gyfer unrhyw un o’r triniaethau rheoli plâu uchod, cysylltwch â: 

01443 866558

Byddwch yn ymwybodol, wrth ffonio i drefnu triniaeth rheoli plâu ar gyfer y triniaethau taladwy, bydd angen i chi dalu ar yr adeg o fwcio a bydd rhaid i chi dalu dros y ffôn gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd
 
Os byddai’n well gennych dalu gydag arian parod, ewch i unrhyw un o swyddfeydd taliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gellir gweld lleoliadau ac oriau agor y swyddfeydd hyn yn y ddogfen isod – Oriau Agor Swyddfeydd Taliadau.
 
Ar gyfer yr holl wasanaethau taladwy ni fydd apwyntiad yn cael ei wneud nes i ni dderbyn taliad. Os na fedrwch chi dalu gyda cherdyn debyd / credyd neu os na fedrwch chi ymweld â swyddfa taliadau, trafodwch hyn gyda ni a byddwn yn hapus i drafod dulliau eraill o dalu gyda chi.

Ble fo angen, bydd swyddogion yn galw ar amser y trefnwyd o flaen llaw ac yn gosod triniaethau diogel ac effeithiol. Os fod y broblem yn parhau am unrhyw reswm byddant yn dychwelyd ac yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y plâu yn cael eu difa
 

Manylion Cyswllt

I wneud apwyntiad ar gyfer unrhyw un o’r triniaethau rheoli plâu uchod, cysylltwch â:  01443 866558