Rheoli Llygredd – Swn

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi profi problem swn rhyw adeg neu’i gilydd, naill ai sy’n tarddu o eiddo masnachol neu ddiwydiannol neu o’r ty drws nesaf. Yn aml, mae problemau swn yn cael eu datrys drwy fynd at y person sy’n gyfrifol am greu’r swn mewn modd cwrtais ond agored, gan ofyn iddynt am eu cydweithrediad. Rhaid dweud fod perthynas gymdogol dda fel arfer yn gofyn am elfen o oddefgarwch, neu ‘live and let live’. Rhaid derbyn i raddau helaeth y parti achlysurol, hi-fi uchel neu gi sy’n cyfarth. Ar y llaw arall, mae yna aflonyddwch parhaus i’w gael, sydd o’u natur, amseriad a hyd yn medru achosi anghyfleustra a phryder.

Yn yr amgylchiadau yma, nid oes ots faint ydych wedi trafod y mater gyda’r person priodol, mae’r swn yn parhau. Gall y swn hwn wedyn fynd yn Niwsans Statudol (problem swn parhaus difrifol) ac efallai y bydd angen i chi gysylltu gydag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor i ymchwilio. Rhaid ystyried pob achos ar ei liwt ei hun, efallai ni fydd swn sydd yn niwsans mewn un ardal  yn niwsans mewn ardal arall. Rhaid i’r asesiad gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau a fyddai yn cael eu goddef gan berson rhesymol cyffredin.

Mae’r canlynol yn cael eu hystyried fel disgwyliadau rhesymol ar gyfer trigolion neu ymwelwyr i Flaenau Gwent:
    

  • Medru cysgu heb aflonyddwch rhesymol; 
  • Cael eich amddiffyn rhag colli mwynder yr ardal o ganlyniad i swn gormodol; 
  • Staff proffesiynol cymwys ar gael i asesu bodolaeth niwsans; 
  • Dim clywed gweithgareddau swnllyd pobl eraill yn eich cartref eich hun, er enghraifft cwn yn cyfarth neu gerddoriaeth uchel;
  • I wella cyswllt rhwng trigolion a grwpiau eraill pan fo hyn yn angenrheidiol.

Unwaith i chi wneud cwyn i’r Adran Iechyd yr Amgylchedd bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at swyddog ymchwilio. Nid yw’r cyngor yn derbyn cwynion anhysbys am ddau reswm. Yn gyntaf, er mwyn bod yn niwsans statudol rhaid i’r Cyngor fod yn fodlon fod y swn yn effeithio ar berson neu bersonau penodol.  Yn ail, rhaid amddiffyn hawliau'r sawl y mae’r gwyn amdano gan sicrhau nad yw’r gwyn wedi ei gwneud yn faleisus. Bydd y broses o ymchwilio i mewn i’ch cwyn wedyn yn dechrau. Efallai y bydd yr ymchwiliad ond yn parhau am rai oriau, mewn achos o larymau tân sydd yn canu, neu sawl mis mewn achos o swn uchel achlysurol o eiddo domestig. Rydym o hyd yn gofyn am eich amynedd a’ch cydweithrediad tra ein bod yn ymchwilio.

     

 

Manylion Cyswllt

Os hoffech chi wneud cwyn am swn ffoniwch C2BG ar (01495) 311556 os gwelwch yn dda.
  
Cofiwch nad ydym yn medru derbyn cwynion anhysbys os gwelwch yn dda.

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk