Mae Parc Bryn Bach mewn lleoliad cyfleus ger yr A465 yng nghalon Cymoedd De Cymru, mewn 340 erw o laswellt a choetiroedd cymysg gyda llyn 36 erw yn ganolbwynt.
Mae’r Parc yn cynnwys rhywbeth i bawb, p’un ai ydych yn mynd am dro neu seiclo o amgylch y llyn, cael picnic neu farbiciw gyda’r teulu neu gymryd rhan yn un o’r llu o weithgareddau antur sydd ar gael yn y Parc. Ychwanegwyd trac seiclo cylch caeedig yn ddiweddar hefyd ac mae mwy o gynlluniau seiclo ar y gweill.
Mae’r Parc mewn lleoliad delfrydol yn agos at Fannau Brycheiniog a’r Mynydd Du ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr a llety Ty Bynciau yn sylfaen ddelfrydol i seiclwyr a cherddwyr i ymchwilio’r dreftadaeth gyfoethog, ardaloedd gwledig hyfryd a’r bywyd gwyllt sydd yma.
Mae’r Parc yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau. Cliciwch ar y dolenni neu gysylltu â Pharc Bryn Bach.
Mae Parc Bryn Bach yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995/2005 mewn sawl agwedd o'r lleoliad. Cafodd nifer o gyfleusterau yn y Ganolfan Ymwelwyr eu huwchraddio er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r ddeddfwriaeth ofynnol a'r codau ymarfer. Mae'r brif fynedfa, y cyntedd a'r cyfleusterau toiled/cawod i gyd yn cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth. Nid yw'r llawr cyntaf yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf.
Parc Bryn Bach
Heol Merthyr
Tredegar
NP22 3AY
Ffôn: 01495 711816
Ebost: parcbrynbach@blaenau-gwent.gov.uk





