Ystafell Reoli

Piper Lifeline Alarm Image

Canolfan Reoli, Canolfan Rheoli Ymateb Brys, a Gwasanaeth Brys Tu Allan i Oriau Agor Arferol Swyddfa

Mae’r Canolfan Reoli yn darparu ymateb brys i dros 3000 o breswylwyr archolladwy sydd wedi eu cysylltu i’r System Larwm Piper. Mae pob galwad yn cael eu delio gyda’r safon uchaf o wasanaeth cwsmer. Yn unol gyda hyn rydym yn ymateb i bob galwad sydd yn cael ei dderbyn drwy’r ymateb brys tu allan i oriau agor arferol swyddfa.

Mae’r System Larwm Piper ar gael i unrhyw berson o unrhyw oedran, a fyddai yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartref eu hunain. Mae ein cleientiaid yn gallu sicrhau gofal, drwy’r Ganolfan Rheoli 24 awr y dydd, gyda’r gweithgaredd syml o grog ''Amie'', sydd yn galluogi’r defnyddiwr i alw help o unrhyw le yn y cartref neu'r ardd. Mae pob gweithredydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel, ac yn ymroddedig a gofalgar.

Mae’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn darparu buddion ar gyfer:

  • Pobl fethedig, hyn neu anabl
  • Pobl sydd wedi gadael ysbyty ond sydd dal angen cefnogaeth neu gynhorthwy ychwanegol
  • Pobl sydd mewn peryg o drais domestig, aflonyddu, erledigaeth, a byrgleriaeth
  • Pobl o bob oed sydd yn byw wrth eu hunain neu yn gweithio wrth eu hunain
  • Tawelwch meddwl i deuluoedd am anwyliaid
  • Darparu, mewnosod a monitor pobl o dan y cyfarpar Larwm Piper
  • Canfodydd llifogydd, canfodydd tan, canfodydd syrthio, larwm ymwthiwr, synhwyrydd gwres cariad a gwely
  • Mae’r cyfarpar larwm yn ymarferol iawn ac yn hawdd i’w fewnosod. Yr unig beth sydd ei angen yw pwynt teleffon a chyflenwad trydan
  • Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma neu i drefnu arddangosiad heb rwymedigaeth yna cysylltwch (01495) 311556