Canolfan Gyswllt

image

Mae canolfan gyswllt C2BG yn gyfleuster sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer ac sydd yn darparu gwasanaethau modern, effeithlon a chost effeithiol i ddefnyddwyr yn y cymunedau maent yn byw o’u mewn.

Mae C2BG yn cynnig dewis o ffyrdd i gysylltu gyda’r cyngor a’r holl wasanaethau sydd yn cael eu darparu gan y C2BG.
Ethos C2BG yw ‘cysylltu’ ‘cyfathrebu’ a ‘dewis’. Mae hyn yn golygu y gallwch gael mynediad i’r C2BG drwy deleffon, post, minicom ac e-bost, ond yn bwysicach wyneb i wyneb drwy rwydwaith o leoliadau ‘Ymestyn Allan’ yng nghalon cymunedau Blaenau Gwent.

Mae dros 25 o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys rheoli plâu, casgliadau sbwriel ac ailgylchu, casgliadau eitemau mawr, ceir wedi eu gadael, ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwsans, swn, prydiau ysgol, grantiau prifysgol, gwasanaethau hamdden a bathodynnau glas ar gael drwy’r C2BG dros y ffôn neu yn y lleoliadau ‘Ymestyn Allan’.
 

Manylion Cyswllt

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â


Canolfan Gyswllt – Ffôn (01495) 311556

Minicom (01495) 355959

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 5.30pm.