Cynllun arbed ynni goleuadau stryd ym Mlaenau Gwent
Mae cynllun arbed ynni i raglennu goleuadau stryd fel eu bod yn troi i ffwrdd rhwng canol-nos a’r wawr yn mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent.
Bydd bron i 6,000 o oleuadau stryd yn awr yn troi ffwrdd am 12am. Bydd 8,000 arall yn parhau ymlaen oherwydd nad oes ganddynt switshis modern y medrir eu rheoli o bell.
Bydd goleuadau stryd yng nghanol trefi, ardaloedd eraill lle mae CCTV, cylchfannau, goleuadau traffig a mannau croesi i gerddwyr yn aros ymlaen drwy’r nos.
Penderfynodd Blaenau Gwent ym Mawrth 2009 fod angen iddi ysywaeth wneud arbedion o £180,000 y flwyddyn ar filiau ynni goleuadau stryd. Roedd y cynllun yn rhan o becyn o arbedion hanfodol oedd eu hangen i gydbwyso cyllideb flynyddol y Cyngor - a gafodd ei tharo’n wael gan y setliad ariannol isel gan Lywodraeth Cynulliad a chynnydd mawr y llynedd mewn costau ynni.





