Bola Empathi
Mae’r adnodd hwn yn offer corff sy’n efelychu beichiogrwydd ac yn galluogi pobl ifanc sy’n gwisgo’r dilledyn i ‘brofi’ dros dro fwy na 20 o’r symptomau nodweddiadol ac effeithiau beichiogrwydd. Drwy’r math ymarferol o ddysgu trwy brofiad, mae gwrywod a benywod ifanc yn cael mwy o ddealltwriaeth o feichiogrwydd a’i effeithiau ar dasgau a gweithgareddau bob dydd sy’n bwysig i’w ffordd o fyw. Mae defnyddio’r Bola Empathi yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc a hefyd yn eu cymell i atal beichiogrwydd nas dymunir.
Babi Meddwl Amdano
Mae’r rhaglen Babi Meddwl Amdano yn efelychydd babi, sy’n galluogi pobl ifanc i brofi gofalu am fabi ifanc fel pe byddent yn rhieni. Mae’r rhaglen yn galluogi pobl ifanc i fynd ag efelychydd babi adre i ofalu amdano, lle mae’n rhaid iddynt fwydo, cael gwared â gwynt, siglo a newid cewyn y babi yn union fel babi go iawn. Mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc i ddeall y gofynion y mae babi ifanc yn ei roi ar ei rieni a’r effaith y byddai’n ei gael ar eu ffordd o fyw.
Mae’r gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys:
Hyfforddiant iechyd rhywiol sylfaenol
Hyfforddiant penodol i fechgyn a dynion ifanc
Amrywiaeth eang o lyfrau, gemau a fideos
Deunyddiau adnodd ar gyfer gweithdai
Nicola Marshall
Sexual Health Coordinator
Arael Education Office
Aberbeeg Road
Abertillery
NP23 2EG
Tel: 01495 212244
Mobile: 07968 476297