Budd-dal tai - hawliad newydd

Sut wyf yn gwneud hawliad?


Mae Budd-dal Tai yn daliadwy mewn perthynas i’r teulu. Mae’r term teulu yn cynnwys hawlwyr sengl, rhieni sengl a chyplau priod neu ddi-briod sydd naill ai â phlant neu sydd heb blant. Rhaid i’r teulu fyw yn yr eiddo fel eu cartref a bod yn atebol i dalu rhent. Gall tenantiaid ond hawlio budd-dal mewn perthynas ag un annedd ar y tro oni bai mewn amgylchiadau arbennig, er enghraifft, os oes rhaid iddynt adael y cartref dros dro o ganlyniad i ofn trais.

Mae yna dair ffordd i hawlio Budd-dal Treth Cyngor:

1.) Gyda chais am gymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith (wedi ei selio ar incwm);
2.) Drwy wneud cais uniongyrchol i’r Awdurdod Lleol.
3.) Drwy lenwi ffurflen gais CMS dros y ffôn gyda’r Swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith.

Lle bo’r hawliad yn cael ei wneud yn syth i’r Awdurdod Lleol, mae’r hawliad i’r budd-dal fel arfer yn dechrau ar y dydd Llun wedi derbyn eich hawliad, hyd yn oed os derbynnir y hawliad ar ddydd Llun. Fodd bynnag, os yw’r hawliad yn cael ei dderbyn yn ystod yr un wythnos a bo’r denantiaeth yn cychwyn, gallwn dalu Budd-dal Tai o ddydd Llun yr wythnos honno os telir rhent yn  wythnosol. Fodd bynnag, gellir ôl-ddyddio hawliad am 52 wythnos fan bellaf o’r dyddiad y gwneir hawliad am ôl-ddyddio, lle bo’r hawliwr yn medru dangos fod yna ‘achos da’ paham na wnaethpwyd yr hawliad ynghynt.

Ni ellir talu Budd-dal Tai fel arfer am gyfnod cyn i chi symud i mewn i’r annedd hyd yn oed mewn achosion lle bo angen i chi dalu rhent cyn symud i mewn. 

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol, gallwch gael eich trin fel petai chi’n byw yn yr annedd i fyny at 4 wythnos cyn i chi symud i mewn, er enghraifft, os yw’r oedi wrth symud yn anorfod er mwyn addasu’r cartref newydd i ddiwallu eich anghenion anabledd chi neu aelod arall o’r teulu. Bydd rhaid i chi gysylltu gyda’r Adran Budd-dal am gyngor os ydych yn ansicr a ellwch dderbyn Budd-dal cyn symud i mewn i’r annedd.

Gellir gofyn am ffurflen gais mewn person neu dros y ffôn, ac os dychwelir y ffurflen gais o fewn un mis calendr o’r dyddiad y gofynnwyd amdani, yna bydd eich hawliad yn dechrau o’r dyddiad i chi wneud hawliad amdano. 

Mae’n bwysig eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd y ffurflen atom i’r cyfeiriad y dangosir uchod cyn gynted â phosib.

Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth y gofynnom amdano ar y ffurflen yn syth, mae’n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen i ni i’r cyfeiriad uchod  cyn gynted â phosib. Os ydych yn oedi dychwelyd y ffurflen i ni, gallwch golli budd-dal.
 

Manylion Cyswllt

The Benefit Section
Blaenau Gwent County Borough Council
Municipal Offices
Civic Centre
Ebbw Vale
Gwent
NP23 6XB
Telephone 01495 311556

E-bost : benefits@blaenau-gwent.gov.uk