Y Broses Apêl.
Wedi i ni wneud penderfyniad ar eich hawliad, byddwn yn danfon llythyr hysbysiad atoch, a fydd yn eich cynghori o ganlyniad eich hawliad am Fudd-dal Tai a Threth Cyngor.
Bydd y llythyr yn eich cynghori chi o’r holl fanylion yr ydym wedi eu defnyddio er mwyn pennu eich hawliad budd-dal, ac mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r holl wybodaeth er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir.
Rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn un mis calendr os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad yr ydym wedi ei wneud ar eich achos.
Mae’r ‘person a effeithir’ (yr hawliwr ac mewn rhai achosion y landlord) yn medru cyflwyno hawliad am adolygiad o fewn un mis calendar o ddyddiad hysbysiad y penderfyniad.
Rhaid i hwn gynnwys y rhesymau pam fo’r person yn anghytuno gyda’r penderfyniad. Fel arfer, bydd person gwahanol i’r un a wnaeth benderfynu ar eich achos gwreiddiol, yn ail-ystyried penderfyniad, i weld a oes angen newid. Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o’r penderfyniad hwn.
Os ydych dal yn anhapus gyda’r penderfyniad, mae hawl gennych i apelio unwaith eto i’r Gwasanaeth Tribiwnlys na sydd yn rhan o’r Cyngor ond sydd yn gorff annibynnol, o fewn un mis calendr pellach.
Unwaith i chi apelio, bydd cyflwyniad llawn yn cael ei baratoi a’i ddanfon at y Gwasanaeth Tribiwnlys, gyda chopi hefyd yn cael ei ddanfon atoch chi a fydd yn cynnwys ffurflen y bydd angen i chi lenwi a’i danfon at y Gwasanaeth Tribiwnlys o fewn un deg a phedwar o ddiwrnodau o ddyddiad y ffurflen.
Bydd y Gwasanaeth Tribiwnlys wedyn yn trefnu dyddiad gwrandawiad tribiwnlys lle y bydd modd i chi fynychu neu gall cynrychiolydd fynychu ar eich rhan os hoffech ac esbonio eich amgylchiadau.
Bydd y Gwasanaeth Tribiwnlys wedyn yn gwneud penderfyniad ac yn hysbysu’r holl bartïon sydd wedi eu heffeithio.
Mae gan y Gwasanaeth Tribiwnlys wefan eu hunain http://www.appeals-service.gov.uk/
Gallwch ofyn i ni fodd bynnag unrhyw amser am esboniad ysgrifenedig manwl o’r modd y mae eich budd-dal wedi ei gyfrifo.
Ond os hoffech apelio, mae’r cyfyngiadau amser sydd wedi eu crybwyll eisoes yn gymwys.





