Rhaid i’r holl arwyddion trafnidiaeth sydd yn cael eu darparu ar y prif ffyrdd gydymffurfio gyda Rheoliadau Arwydd Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2002. Rhaid i’r arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r Saesneg uwchlaw'r Gymraeg.
Caiff arwyddion trafnidiaeth eu darparu a’u cynnal ar brif ffyrdd mabwysiedig drwy’r Fwrdeistref Sirol er mwyn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ffyrdd.
Y prif grwpiau o arwyddion yw:-
- arwyddion rhybudd, siâp triongl gan amlaf
- arwyddion rheoleiddio e.e. cylchoedd coch
- arwyddion cyfarwyddiadau, siâp petryal gan amlaf
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am arwyddion Cefnffyrdd, h.y. A465(T). Dyma gyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am wybodaeth am ddarpariaeth arwyddion trafnidiaeth newydd, cysylltwch yr Adran Rheoli Trafnidiaeth:





