Cartrefi amlfeddiannaeth

Beth yw cartref aml feddiannaeth (house in multiple occupation (HMO))?


Mae’r diffiniad o HMO yn cael ei gynnwys o fewn Deddf Cartrefi 2004. Yn gyffredinol mae’n cynnwys unrhyw dy neu fflat sydd yn cael ei feddiannu gan ddau neu fwy o bersonau nad ydynt yn byw gyda’i gilydd mewn un cartref.
Gorfodir safonau drwy ddefnyddio'r System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai fel sydd yn digwydd gydag unrhyw dy arall er bod yna rai risgiau ychwanegol yn gysylltiedig gyda rhai HMO’au. Wrth ymgymryd ag arolygiad o HMO efallai y byddwn yn ymgynghori gyda’r gwasanaeth Achub a Thân mewn perthynas â modd i ddianc rhag tân.
Mae mwy o wybodaeth ar y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai i’w gael yn yr adran gwybodaeth gyffredinol hon o Dai.

Trwyddedu HMO


Daeth darpariaethau trwyddedu HMO i rym ym mis Gorffennaf 2006. Mae nawr yn dramgwydd i weithredu HMO trwyddedadwy heb drwydded, ac mae yna gosb lem yn dilyn collfarn.
Ym Mlaenau Gwent rydym ar hyn o bryd ond yn trwyddedu HMO sydd yn dod o fewn y cynllun gorfodol. Mae trwyddedu gorfodol yn cynnwys yr HMO sydd yn cael eu hystyried fel y rhai hynny o’r risg uchaf. Efallai y bydd angen trwydded arnoch o dan y cynllun hwn os yw eich mangre:
 

  • Yn dri llawr neu fwy ac a

  • 5 neu fwy o drigolion wedi eu rhannu yn

  • 2 neu fwy o osodiadau


Os hoffech gopi o’r ffurflen gais am drwydded a chanllaw lawr lwythwch os gwelwch yn dda'r dogfennau dilynol neu ffoniwch 01495 355051, ffoniwch y rhif hwn hefyd am gymorth gyda chwblhau’r ffurflen.

Manylion Cyswllt

For further advice or information or if you live in an HMO and are concerned about conditions there please call 01495 355051.