Casgliadau Ailgylchu
Cafodd holl breswylwyr Blaenau Gwent fagiau ailgylchu clir, bagiau ailgylchu glas a thaflen wybodaeth.
Rhowch unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy yn y bagiau a rhoi’r bagiau allan i gael eu casglu ar eich diwrnod casglu arferol bob wythnos.
Yn y Bag Clir derbyniwn:
Papur:
Papurau newydd
Cylchgronau
Catalogau
Llyfrau Ffôn
Amlenni
Papur lapio
Llyfrau clawr papur
Cardfwrdd:
Blychau
Cardiau cyfarch
Yn y Bagiau Glas derbyniwn:
Caniau
Caniau bwyd a diod
Caniau erosol
Ffoil
Gwydr
Poteli a jariau
Plastig
Poteli (poteli diodydd, poteli siampw, poteli glanedydd ac ati)
Tybiau margarin a menyn
Potiau iogwrt
Cewyll ffrwythau
Hambyrddau cig
Cartonau Bwyd a Diod
Cartonau sudd
Ni fyddwn yn derbyn
× Tuniau paent
× Cardfwrdd gydag olion bwyd
× Gwydr wedi torri
× Llestri a Pyrex
× Gwydr ffenestr
× Clingffilm
× Bagiau cario
× Polystyren
Gadewch y bagiau gyda nwyddau ailgylchu ar y palmant yn ymyl eich cartref ar y diwrnod casglu.
Caiff sbwriel ac ailgylchu ei gasglu mewn gwahanol gerbydau felly gofynnir i chi gadw eich ailgylchu ar wahân i’ch sbwriel.
Medrwch roi’r bagiau ailgylchu wrth ochr eich bin sbwriel neu’n ymyl eich bagiau du ond gofynnir i chi beidio rhoi bagiau ailgylchu y tu mewn i’r bin a ddefnyddiwch ar gyfer sbwriel.
Pan ydych yn mynd yn brin o fagiau, rhowch y tag a roddwyd mewn lle amlwg ar un o’r bagiau a rowch allan ar gyfer casglu.
Nodwch os gwelwch yn dda
- Rydym yn casglu nwyddau ailgylchu mewn cerbydau tebyg i rai sbwriel oherwydd fod hyn yn fwy effeithiol. Mae’r rhain yn gerbydau hollol wahanol i’r rai sy’n dod i nôl eich gwastraff cartref. Caiff y deunydd a gasglwn ar gyfer ei ailgylchu ei ailgylchu ac nid yw’n mynd i domen lanw.
- Rydym wedi ail-drefnu ein gwasanaethau casglu fel y caiff y sbwriel a’r ailgylchu ei gasglu ar yr un diwrnod.
- Dim ond os ydynt yn y bagiau cywir y medrwn gasglu nwyddau ailgylchu. Gofynnir i chi beidio defnyddio bagiau du, bagiau cario neu fagiau eraill ar gyfer ailgylchu.
Pencampwyr ifanc ailgylchu
Mae Rhys Hamblin a Lulu Zhana yn aelodau o dîm amgylchedd Ysgol Gyfun Tredegar. Maent yn frwd i fynd i’r afael â’r gwasanaeth ailgylchu newydd ac fe wnaethant roi cynnig ar y bagiau newydd glas - ar gyfer caniau, plastig a gwydr - a’r bagiau clir newydd - ar gyfer papur a chardfwrdd.





