Mae Gwasanaethau Tai yn landlord cymdeithasol, yn darparu gwasanaeth rheolaeth tai ac atgyweiriadau cost effeithiol sydd wedi ei ganolbwyntio ar denantiaid. Mae’n ymrwymedig i wella ei wasanaethau yn unol gydag anghenion a dewisiadau ei denantiaid ac i gynyddu eu cyfranogiad yn y broses gwneud penderfyniadau.
Datganiad bwriad y gwasanaeth yw:
‘I ddarparu tai fforddiadwy o’r ansawdd uchaf a gwasanaethau sydd wedi eu canolbwyntio ar gwsmeriaid i bobl Blaenau Gwent’.
Mae Gwasanaethau Tai yn cymryd ei arweiniad o’r nod strategol allweddol yn unol â chynnwys y Cynllun Cymunedol sydd wedi ei gytuno am yr ardal:
“i sicrhau bod llety fforddiadwy o ansawdd yn hygyrch ac ar gael o fewn cymunedau cynaliadwy ar gyfer yr holl drigolion’.
Mae’r Gwasanaethau Tai wedi cydnabod yr effaith mai tai fforddiadwy, o ansawdd da mewn ystadau sydd yn cael eu rheoli’n dda yn effeithio ar nifer o faterion economaidd-gymdeithasol sydd yn gallu effeithio ar bobl yn yr ardal, h.y. materion iechyd a chynhwysiad cymdeithasol. Mae wedi cydnabod bod creu llefydd lle mae pobl am fyw yn dod â buddion hir dymor i gymunedau sydd yn ymwneud gyda’r ardaloedd hynny.
Mae felly’n ymrwymedig i’r amcan hirdymor o:
Adfywio ystadau tai a gwella cynaladwyedd cymunedau o fewn yr ystadau hynny, drwy raglen o ailwampio'r stoc gyfredol o dai, dileu tai anarferedig, cefnogi grwpiau cymunedol a phrosiectau sydd wedi eu selio ar y gymuned a gweithio gyda mudiadau partner i gyrraedd yr amcanion maent yn eu rhannu.
Dyma yw amcanion Gwasanaethau Tai: