Mae Adran Priffyrdd yr Awdurdod yn gyfrifol am weithrediad a rheolaeth y gwasanaeth yma ym Mlaenau Gwent. Mae Swyddogion Patrôl Croesi’r Ffordd Ysgol yn gweithredu mewn nifer o leoliadau drwy’r Fwrdeistref, a phob dydd maent yn cynorthwyo miloedd o bobl i groesi’r ffordd yn ddiogel.
|
Mae swyddi ar gael ar hyn o bryd am y swydd yma mewn nifer o leoliadau. Os oes gyda chi rhai oriau sbâr, neu yn gwybod am rywun, ac am helpu ein plant i fod yn ddiogel ar y ffyrdd yna ffoniwch ein Swyddog Patrôl Croesi’r Ffordd Ysgol ar (01495) 355378 neu e-bostiwch: technicalservices@blaenau-gwent.gov.uk |
Atgof ar gyfer Modurwyr
Wrth agosau at batrôl dylech wastad fod yn barod i arafu neu stopio. Unwaith bod y patrôl yn codi’r arwydd mewn modd unionsyth rhaid i chi STOPIO eich cerbyd yn nôl y gyfraith. Ni ddylech chi aros iddynt gamu oddi ar y palmant. Mae Rheolau’r Ffyrdd yn datgan bod yn ‘rhaid i chi stopio pan eich bod yn derbyn yr arwydd gan Swyddog Patrôl Croesi’r Ffordd Ysgol sydd yn arddangos arwydd AROS’.




