Etholiadau - cofrestr etholiadol

 

Pleidleisio yn yr Etholiad

Er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad yma, rhaid eich bod yn gymwys i bleidleisio, a rhaid eich bod wedi eich cofrestru ar y gofrestr etholiadol.

 

Cofrestru i bleidleisio

Beth yw’r gofrestr etholiadol?
Pryd allwch chi gofrestru?
Pwy syn gallu cofrestru?
Sut i wneud cais i fod ar y gofrestr
Dychwelyd eich ffurflen gais cofrestru etholwr
Ble gallaf weld y gofrestr o etholwyr
Amserlen gofrestri

 

Beth yw’r gofrestr etholiadol?

Rhestr o bobl yn ardal Blaenau Gwent sydd yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad yw’r gofrestr etholiadol. Er mwyn pleidleisio mewn etholiad rhaid bod eich enw ar y gofrestr yma. Fe ddiweddarir y gofrestr yn helaeth rhwng mis Awst a Thachwedd a daw'r gofrestr yma i rym yn ystod mis Rhagfyr. Cyn ac wedi hyn, mae’r gofrestr yn cael ei ddiweddaru yn fisol.


Y Gofrestr Lawn

Mae’r gofrestr lawn yn rhestru pawb sydd yn gymwys i bleidleisio. Dim ond rhai unigolion a mudiadau sydd â hawl i gael copi o’r gofrestr lawn, ac mi allant ond ei defnyddio at ddibenion penodol. Mae’r rhain yn cynnwys dibenion etholiadol, datrys ac arbed trosedd a gwirio adnabyddiaeth pan eich bod wedi gwneud cais am gredyd. Mae’r gyfraith yn dweud pwy sydd yn gallu cael copi o’r gofrestr lawn ac yn datgan y defnydd y gallant wneud ohono. 


Y Gofrestr sydd wedi eiGolygu

Mae’r gofrestr sydd wedi ei golygu yn hepgor enwau a chyfeiriadau pobl sydd wedi gofyn iddynt gael eu heithrio o’r fersiwn honno. Gellir unrhyw berson brynu’r gofrestr wedi ei golygu a gallant ei defnyddio ar gyfer pa bynnag reswm y dymunant.

 

Pryd gallwch chi gofrestru?

Mae’r Gofrestr Etholiadol yn gofrestr dreigl, sydd yn golygu y gallwch chi ymuno gyda’r gofrestr drwy’r flwyddyn. Gall etholwyr sydd yn symud cwblhau ffurflen gais a chofrestru eu cyfeiriad newydd. Defnyddiwch yr amserlen i ddarganfod pryd bydd eich enw yn cael ei ychwanegu’n ffurfiol i Gofrestr yr Etholwyr.

 

Pwy sydd yn gallu cofrestru?

Unrhyw berson sydd dros 18 mlwydd oed ac yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn ardal Blaenau Gwent na sydd eto ar y gofrestr. Gallwch chi hefyd gael eich ychwanegu i’r gofrestr pan ydych yn 17 mlwydd oed a byddwch wedyn yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw etholiad wedi eich deunawfed pen-blwydd.

 

Sut i wneud cais i fod ar y gofrestr

Cysylltwch gyda’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol os gwelwch yn dda am ffurflen gais.


Dychwelyd eich Cais Cofrestr Etholiadol

Gall eich ffurflen gais gael ei bostio mewn amlen Ymateb Busnes. Nid oes angen stamp. Cysylltwch gyda’r Cofrestru Etholiadol am amlen.
Unwaith eich bod wedi eich cofrestru, byddwch yn derbyn hysbysiad eich bod wedi eich cofrestru a byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn pob etholiad yr ydych yn gymwys i bleidleisio ynddo yn rhoi gwybodaeth ar sut y gallwch bleidleisio.


Ble allaf weld y gofrestr o etholwyr

Mae Cofrestr Etholwyr ar gael i’w harchwilio yn Swyddfa Cofrestrfa Etholiadol, Llawr 4A y Ganolfan Sifig, Glyn Ebwy.
   

Amserlen gofrestru

Wedi i chi wneud cais i ymuno gyda’r gofrestr, defnyddiwch yr amserlen hon i ddarganfod pryd y byddwch yn cael ei ychwanegu ato:
    
Ffurflen a dderbyniwyd i ddyddiad yr ychwanegir at y gofrestr
9 Mawrth 2007 2 Ebrill 2007
5 Ebrill 2007 1 Mai 2007
10 Mai 2007 1 Mehefin 2007
8 Mehefin 2007 2 Gorffennaf 2007
10 Gorffennaf 2007 1 Awst 2007
10 Awst 2007 3 Medi 2007
I bleidleisio yn etholiad Cynulliad Cymru 2007 rhaid ein bod wedi derbyn eich ffurflen erbyn 18 Ebrill.

Manylion Cyswllt

Contact details and office opening hours

Electoral Registration
Civic Centre,
Ebbw Vale
NP23 6XB


Telephone: (01495) 355086/355088
Fax: 01495 301255

Office opening hours:
Monday to Friday 9am to 5pm

 

E-bost : Audra.Williams@blaenau-gwent.gov.uk