Crynodeb o’r Cofrestru
Er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar neu o unrhyw safle, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol. Ymhlith y safleoedd mae’n bosib y bydd angen iddynt gofrestru mae bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau cludo bwyd, (nodwch nid yw hwn yn rhestr gynhwysfawr).
Mae’n bosib y bydd rhai gwneuthurwyr sy’n trin cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid hefyd angen cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Lleol neu’r Gwasanaeth Hylendid Cig.
Os ydych chi’n ansicr os oes angen cymeradwyaeth ar eich busnes neu os oes angen i chi gofrestru’ch busnes, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Pwy sy’n Gallu Ymgeisio?
Does dim cyfyngiadau ynghylch yr unigolion gall wneud cais am drwydded.
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r cofrestru
Gellir dod o hyd i gyfarwyddyd pellach ar gyfer busnesau bwyd yma
Oes rhaid i mi dalu ffi ymgeisio?
Does dim rhaid talu ffi i wneud y cais hwn.
Faint o amser fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn cael ei weithredu?
Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu a bydd caniatâd dealledig yn cael ei weithredu. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich cais wedi cael ei ganiatáu os nad ydych chi wedi clywed o’r awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau y’i targedir sef 28 niwrnod.
Ydw i’n gallu apelio os bod fy nghais yn aflwyddiannus?
Cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynglyn ag unrhyw geisiadau cofrestru y’u dychwelwyd neu y’u gwrthodwyd.
Cwynion Defnyddwyr
Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Y Gofrestr Gyhoeddus
Cliciwch yma am wybodaeth ynghylch gweld cofrestrau cyhoeddus.





