Trwydded Casglu Drws i Ddrws

Beth yw trwydded Casglu Drws i Ddrws?
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli trwyddedau casglu drws i ddrws?
Pwy all wneud cais?
Beth yw’r broses gais?
A allaf wneud cais ar-lein?
Faint fydd y gost?
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
A fedraf apelio os gwrthodir fy nghais?
Cwynion defnyddwyr

  

Beth yw trwydded Casglu Drws i Ddrws?

Mae elusen, sefydliad neu unigolyn sy’n dymuno cynnal casgliad elusennol ar gyfer arian neu eiddo drwy ymweld â phobl yn eu cartref neu fan gwaith, angen trwydded casglu drws i ddrws. Fodd bynnag, nid oes angen trwydded ar gyfer digwyddiadau noddedig neu lle gadewir blwch casglu mewn safle busnes, e.e. siop, tafarn ac ati, i’w gasglu ar ddyddiad diweddarach.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli trwyddedau casglu drws i ddrws?

Mae Deddf Casgliadau Drws i Ddrws 1939 yn rheoli casglu o ddrws i ddrws – cliciwch yma i weld rheoliadau’r Cyngor.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais, fodd bynnag mae’n rhaid i’r ymgeisydd brofi ei fod/bod yn berson addas a chywir.

Beth yw’r broses gais?

Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais berthnasol i’r Cyngor, ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan yr elusen dan sylw. Yn ychwanegol, gall fod angen i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi’r cais, h.y. copïau o gyfrifon casgliadau eraill.

Os cymeradwyir y cais, rhaid gwneud casgliadau arian mewn cynwysyddion wedi eu selio ac o fewn un mis o ddyddiad y casgliad, mae’n rhaid i hyrwyddwr y casgliad gyflwyno ffurflen i’r Cyngor yn dweud faint o arian neu werth yr eiddo a gasglwyd.

A allaf wneud cais ar-lein?

Medrir cyflwyno cais ar-lein yma.

Medrwch hefyd:-

Anfon ffurflen casgliad drws i ddrws

Faint fydd y gost?

Nid oes ffi’n daladwy
 
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
 
Bydd y Cyngor yn delio gyda’ch cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o gyflwyno eich cais, dylech gysylltu â’r Cyngor. Nid yw caniatâd dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i’ch cais os na chlywch gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.

A fedraf apelio os gwrthodir fy nghais?

Gallwch apelio i Weinidog Swyddfa’r Cabinet o fewn 14 diwrnod o wrthodiad eich cais.

Cwynion defnyddwyr

Os oes gennych gwyn am gasgliad elusennol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Thîm Trwyddedu’r Cyngor ar 01495 355961.

Manylion Cyswllt

Yr Adran Trwyddedu
Swyddfeydd Rhanbarthol CBSBG
Stryd Beaufort
Brynmawr
NP23 4AG

Ffôn: 01495 355961
Ffacs: 01495 355245

Gweithredir system apwyntiadau. Dylid ffonio o flaen llaw er mwyn trefnu dyddiad ac amser cyfleus i ymweld a ni os hoffech chi gyflwyno cais neu dderbyn cyngor. 
    

E-bost : licensing@blaenau-gwent.gov.uk