Ardal Prif Gynnwys

Perfformiad a Gwelliant


Mae rheolaeth perfformiad yn bwysig i bawb sydd am weld cymunedau lleol yn cael eu gwasanaethu’n well gan y Cyngor a’i bartneriaid. Gall rheolwyr ei ddefnyddio i sicrhau bod gwasanaethau yn gwella ac yn fwy effeithiol. Gall Cynghorwyr ei ddefnyddio i sicrhau bod penderfyniadau polisi yn cael eu gweithredu a bod preswylwyr yn cael eu gwasanaethu’n dda. Fwyfwy, gall dinasyddion a phartneriaid ddefnyddio agweddau o reolaeth perfformiad, megis adrodd cyhoeddus i sgrwtineiddio’r Cyngor. 
  
Mae’r Cyngor yn benderfynol o wella ei berfformiad a sicrhau safon uchel o wasanaethau sydd wedi eu canolbwyntio i’n holl breswylwyr ac ymwelwyr i Flaenau Gwent. I sicrhau ein bod yn parhau i wella bob blwyddyn byddwn yn:
       

  • Gosod targedau heriol i’n hunain ar gyfer gwelliant
  • Cyhoeddi gwybodaeth drwy’r flwyddyn i adael pobl i wybod sut i ni yn gwneud
  • Adolygu ein gwasanaethau drwy ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth i adnabod eu hanghenion

Mae Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yn gofyn i’r holl gynghorau i wella’n barhaus eu gwasanaethau ac i sicrhau bod hyn yn digwydd mae Cyngor Blaenau Gwent wedi rhoi trefniadau rheolaeth perfformiad yn eu lle sydd yn monitro ac yn adolygu pob ardal gwasanaeth. Mae canlyniadau'r adolygiadau yma yn adnabod ardaloedd sydd angen eu gwella ac yn ffurfio sail ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor am y 12 mis a thu hwnt. Mae Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella hefyd yn gofyn i awdurdodau wneud arbedion gwerth am arian ac effeithlonrwydd sydd yn ‘wirioneddol ac yn gynaliadwy neu yn galluogi mwy neu well gwasanaethau i’w cael eu darparu am yr un mewnbwn o adnodd’, mae hwn yn adlewyrchu agenda diwygio eangach Llywodraeth y Cynulliad fel eu gosodir allan yn yr agenda Creu’r Cysylltiadau a Fframwaith Gwneud y Defnydd Gorau o'n Hadnoddau.





Fel Awdurdod Lleol, rydym yn adnabod y rôl bwysig mae gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae ym mywydau ein preswylwyr. Mae gwasanaethau megis Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Diogelwch Cymunedol, Glanhau Palmant a Chynnal a Chadw Priffyrdd yn hanfodol i’n Cymuned ac mae’n bwysig ein bod yn gadael i’n preswylwyr i wybod sut yr ydym yn perfformio yn yr ardaloedd yma. Bydd gwybodaeth perfformiad yn cael ei gyhoeddi yn rheolaidd fel y gall pawb fonitro sut mae’r Cyngor yn datblygu gyda’i nodau a’i amcanion.



Mae manylion o sut ydym wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf a’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i’w canfod yng Nghynllun Gwelliant Corfforaethol y Cyngor  2008-2009. Mae ein Cynllun Gwelliant yn tynnu ar amcanion ein Strategaeth Gymunedol, sydd yn galluogi ni i sicrhau bod ein gwelliannau yn canolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau lleol. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid  sector Cyhoeddus, Preifat a Gwirfoddol i ddatblygu ein hagenda gwelliant.





I lawr lwytho penodau unigol o’r Cynllun Gwelliant cliciwch ar y linciau isod os gwelwch yn dda:
     

Fel arall gallwch lawr lwytho’r fersiwn llawn o’r Cynllun neu Grynodeb o’r Dogfennau Perthnasol isod.
  
Mae Llythyr / Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Perthynas y gosod negeseuon allweddol all o’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef yn ystod 2008/2009 – gweler y dogfennau perthnasol isod.

Dogfennau Cysylltiedig
Manylion Cyswllt



Corporate Performance & Improvement Team

Tel No: 01495 355004


E-bost : pps@blaenau-gwent.gov.uk
 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk