Sbwriel - Casgliadau Arbennig a hefyd Wastraff Cartref - Casgliadau Arbennig ar gyfer Eitemau Mawr
Oes gennych chi eitemau diangen yr hoffech gael gwared â hwy? I’n helpu i ostwng defnydd tomennydd tirlenwi, ffoniwch HOMEMAKERS ar 01873 857618 i drefnu casgliad fydd yn ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio eitemau. Gall fod tâl bach am y gwasanaeth yma. Gall Homemakers hefyd glirio tai os oes angen. Cysylltwch â hwy am ddyfynbris.
Yn ogystal â safleoedd amwynder dinesig yng Nghwm Tawel, Dyffryn Newydd a Bourneville, gall Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent hefyd drefnu casglu eich eitemau diangen o’ch cartref.
Cesglir Gwastraff Dinesig ar ddiwrnod bin, ac mae’n cynnwys eitemau mawr megis dodrefn tridarn, gwelyau, cypyrddau dillad ac eitemau mawr o gelfi. Mae’r casgliadau hyn wedi’u cyfyngu i 3 eitem fawr neu gyfwerth â 12 bag bob 12 wythnos, ac mae’n rhaid eu rhoi yn eich pwynt bin erbyn 7:30am ar y diwrnod casglu.
Defnyddiwch y ddolen ‘Ffurflenni Ar-lein’ ar dde’r dudalen hon i anfon cais atom am gasgliad a byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda manylion y casgliad. Os ydych yn ansicr os medrir casglu unrhyw beth, yna ffoniwch C2BG ar (01495) 311556.
Nid ydym mwyach yn cynnwys yr eitemau/gwastraff dilynol: gwastraff DIY, dodrefn ystafell ymolchi/cegin, lloriau pren, drysau, pridd, tywod, teils/cerameg, sment neu goed. Dylid mynd â’r rhain i safle Amwynder Cyhoeddus. Ffoniwch (01495) 311556 i gael mwy o wybodaeth.
Mae casgliadau Gwastraff Gwyrdd yn cynnwys tyfiant coed, gwair wedi’i dorri, gwrych wedi’i dorri, dail ac ati. Dylai unrhyw ganghennau o goed gael eu torri i ddim mwy na 5 tr. Y casgliad mwyaf yw 20 bag/sypyn gwastraff. Mae’r casgliad ar gael bob wythnos a rhaid eu rhoi yn y man lle gadewch eich bin fel arfer erbyn 7:30am ar y diwrnod casglu.
Cesglir eitemau trydanol gan adran o dîm ailgylchu Tidy Trev.
Medrir casglu eitemau trydanol megis oergelloedd, rhewgelloedd, setiau teledu, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri, setiau radio, tostwyr, VCR ac ati. Rhaid eu rhoi mewn man amlwg y medrwch ei weld o’ch cartref a rhaid i chi nodi os bydd yr eitemau ym mlaen neu gefn y ty. Rhaid i’r criw fedru cyrraedd y lleoliad yn eu cerbyd.
Defnyddiwch ddolen ‘Ffurflenni Ar-lein’ ar ochr dde’r dudalen i anfon cais i ni am gasgliad a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda manylion y casgliad. Os ydych yn ansicr os gall unrhyw beth gael ei gasglu, ffoniwch C2BG ar (01495) 311556.




