Glynebwy

Clock

£12.2m o gyllid ar gyfer canol tref Glynebwy

Sicrhawyd cyllid sylweddol o £12.2m i adfywio canol tref Glynebwy gan greu canolfan ddeniadol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr i’r dref.

Bydd cymeradwyo’r cyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru yn hwb i’r economi lleol, yn diogelu swyddi ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth yn y sector manwerthu a busnes.

Cefnogir cynllun adfywio canol y dref gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir a rhaglen Blaenau’r Cymoedd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd £1m o gyllid hefyd ar gael gan Gyngor Blaenau Gwent a ffynonellau preifat.

Mae’r prosiect adfywio yn cynnwys:
• Gwelliannau i barth cyhoeddus y Porth Gogleddol a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae’r cynllun ar hyd Stryd y Farchnad a Stryd James yn cynnwys palmant, goleuadau a chanllawiau newydd yn ogystal â’r cloc unigryw a’r celfweithiau
• Adfywio Stryd yr Eglwys
• Grantiau Adfywio Ffisegol
• Cysylltiadau cymunedol ar draws y Cymoedd
• Hen Waith Dur, Canol y Dref/Stryd yr Eglwys
• Gwelliannau i’r parth cyhoeddus yng nghefn Stryd Bethcar a gwella cyfnewidfa bws a lleoedd tacsi
• Sgwâr Banc, Stryd Bethcar
• Sgrinio’r iard gwasanaeth i gefn Stryd Bethcar.

Caiff y dref ei thrawsnewid drwy’r rhaglen adfywio hon gyda gwelliannau i Stryd yr Eglwys, Stryd Spencer, Rhiw Armoury a Teras Armoury. Bydd y gwaith yn cynnwys palmentydd newydd, goleuadau, teledu cylch cyfyng, tirlunio a gweithiau celf. Caiff yr adeiladau masnachol/cymunedol yn yr ardal hon eu gwella gan weithio gyda phartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Tai United Welsh, Promo Cymru, EVAD a buddsoddwyr o’r sector preifat.
Mae Grantiau Adfywio Ffisegol ar gael ar gyfer gwella adeiladau masnachol a chymunedol ym mhob rhan o’r dref.

Bydd y cynllun yn gweld gwelliannau i’r cysylltiadau cerddwyr yn Rhiw Eglwys Crist, Heol yr Orsaf/Heol Gwaith Dur a Rhiw Sgwâr y Frenhines/The Rookery. Bydd y cysylltiadau hyn yn ffurfio pyrth pwysig i gerddwyr i’r Gweithiau ac yn rhoi mynediad i breswylwyr lleol i'r cyswllt rheilffordd newydd, ysbyty, campws dysgu, canolfan achau a’r theatr a’r ganolfan hamdden arfaethedig. Bydd hyn hefyd yn rhoi mynediad i ganol y dref i breswylwyr a phobl yn gweithio ar y safle ar ei newydd wedd.

Bydd hefyd gyfnewidfa bws newydd eiconig a lleoedd tacsi yng nghefn Stryd Bethcar fydd yn helpu i wella mynediad i’r dref gan ostwng y ddibyniaeth ar geir.

Nodwyd Sgwâr Banc yn Stryd Bethcar yn ofod agored cyhoeddus a bwriedir gosod celfwaith unigryw yno.

Bydd gwella ymddangosiad cyffredinol Glynebwy ynghyd â gwella cysylltiadau mynediad yn creu amgylchedd gwych i bobl leol, busnesau, ymwelwyr a darpar fuddsoddwyr.