31 August 2010
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn dod i’ch cymuned i wrando arnoch chi.
Bob dydd Llun am yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn cynnal cyfarfodydd Yma i Wrando mewn lleoliadau o amgylch Blaenau Gwent i wrando ar eich pryderon a chanfod beth y credwch yw’r blaenoriaethau ar gyfer eich cymuned.
Dywedodd y Cyng Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae Yma i Wrando ynglyn â’ch cyngor yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer eich cymuned. Rydym yn dod i’ch ardal i wrando – i gasglu barn i ddechrau ac wedyn roi adborth i gymunedau lleol yn yr wythnosau a misoedd i ddod.”
Cynhaliwyd y cyfarfod yn Cwm ddydd Llun, 23 Awst 2010.
Cynhelir pob cyfarfod Yma i Wrando ar nosweithiau Llun, yn cychwyn am 6.30pm.
6 Medi Llanhiledd Canolfan Gymunedol Swffryd
13 Medi Rhasau Canolfan Gymunedol Rhasau
20 Medi Abertyleri Canolfan Ddiwylliannol a Chynadleddau Y Met
27 Medi Sirhywi Clwb Dukestown
4 Hydref Glynebwy Gogledd Canolfan Ddinesig, Glynebwy
11 Hydref Brynmawr Ysgol Blaen y Cwm
18 Hydref Cwmtyleri Ysgol Gyfun Abertyleri
25 Hydref Badminton Ysgol Gyfun Glyncoed
1 Tachwedd Georgetown Kids R Us
8 Tachwedd Blaenau Eglwys San Pedr
15 Tachwedd Glynebwy De Capel Seion, Rhiw Brierly
22 Tachwedd Nantyglo Clwb Rygbi Nantyglo
29 Tachwedd Beaufort Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort
6 Rhagfyr Six Bells Canolfan Gymunedol Six Bells
13 Rhagfyr Tredegar Canol a Gorllewin Ysgol Gynradd Deighton




