31 August 2010
Cafodd y gwasanaeth newydd a gwell ar gyfer ailgylchu a chasglu gwastraff gan Gyngor Blaenau Gwent ei groesawu gan lawer o gartrefi.
Mae’r cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu ar draws y fwrdeisdref sirol – yn arbennig felly yn yr ardaloedd lle dosbarthwyd y biniau newydd yn rhad ac am ddim.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cynnig dewis ac opsiynau i gartrefi ar gyfer biniau olwyn.
Mae biniau ar gael mewn dau faint.
Nid oes angen gwthio olwynion i fyny ac i lawr stepiau ar ddiwrnod casglu. Gall pobl ddefnyddio biniau ar gyfer cadw bagiau du o wastraff ac yna roi’r bagiau allan fel o’r blaen.
Nid yw’n rhaid i bobl leol gael bin olwyn.
Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio bin olwyn - cawsant eu dosbarthu i dros 15,000 o gartrefi hyd yma.
Mae’r cyfraddau ailgylchu eisoes wedi cynyddu mewn cymunedau lle dosbarthwyd biniau olwyn yn barid, yn cynnwys llawer o rannau o Dredegar a Glynebwy.
Fel rhan o’r gwasanaeth newydd, caiff deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd ei gasglu o gartrefi bob wythnos. Caiff gwastraff arall ei gasglu bob yn ail wythnos.
Dywedodd y Cyng Keith Barnes, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae angen i bawb gydweithio os ydym i gyrraedd y targedu ailgylchu caled a osodwyd gan y Llywodraeth ac osgoi cosbau ariannol.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaethau gwastraff ac ailgylchu ffoniwch Ganolfan Cyswllt y Cyngor ar 01495 311556.




