Gwireddu breuddwyd siop goffi i gwpl ym Mlaenau Gwent

31 August 2010

Mae cwpl wedi gwireddu eu huchelgais o agor siop goffi fodern ym Mrynmawr - diolch i gynllun cychwyn busnes a gefnogir gan Gyngor Blaenau Gwent.

Gwnaeth Caren a Bulent Dilek-Karaosmanoglu, a fagwyd yn Nhwrci ac sydd wedi byw ym Mlaenau Gwent am y pum mlynedd ddiwethaf, gais am Gyllid Dechrau Da  i agor ‘Kahve’ - bar coffi cyfeillgar a hamddenol.

Dywedodd Bulent: “Cawsom groeso gwych gan bobl Brynmawr hyd yma ac edrychwn ymlaen at lawer o flynyddoedd yn masnachu yn y dref.”

Dywedodd y Cyng Don Wilcox, Aelod Gweithredol dros Adfywio Cyngor Blaenau Gwent: “Mae ein canol trefi yn bwysig at adfywio Blaenau Gwent ac maent yn elfen allweddol o fewn yr economi lleol – dylem i gyd eu cefnogi.
“Mae’n wych gweld rhywun fel Bulent yn agor busnes newydd cyffrous ym Mrynmawr. Rydym wedi medru rhoi cymorth iddo sefydlu drwy ein partneriaeth gydag UK Steel Enterprise.”

Sefydlwyd cynllun grant Dechrau Da yn 2001 gan Gyngor Blaenau Gwent UK Steel Enterprise yn 2001

• Cafodd 119 o fusnesau help i sefydlu
• Dyfarnwyd £162,955 i fusnesau newydd
• Crëwyd 168 o swyddi amser llawn a 30 o swyddi rhan-amser