Gwneud Gwahaniaeth

22 July 2010

Eich cyfle i roi eich sylwadau ar y cynllun ar gyfer dyfodol Blaenau Gwent.

Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cynigion cyffrous ar gyfer Blaenau Gwent a gyflwynir yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’ – y strategaeth
gymunedol ddrafft newydd ar gyfer yr ardal dros gyfnod 10 i 20 mlynedd.


Fe’i datblygwyd yn defnyddio gwybodaeth o’r arolwg ‘Byw ym Mlaenau Gwent’ - yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb-yn-wyneb gyda 1,000 o bobl leol - a hefyd y syniadau am y materion pwysig sy’n wynebu Blaenau Gwent a nodwyd gan bobl leol, mudiadau a grwpiau a  gymerodd ran mewn digwyddiadau ledled yr ardal yn gynharach eleni.


Y cam nesaf yw ein ymgynghoriad ar ‘Gwneud Gwahaniaeth’. Rydym eisiau i bawb – pobl leol, mudiadau a grwpiau cymunedol i roi eu barn. Dywedodd y Cynghorydd Des Hillman, sy’n cadeirio Bwrdd Gwasanaeth Lleol Blaenau Gwent: “Croeso i ‘Gwneud Gwahaniaeth’,
ein strategaeth gymunedol newydd sy’n nodi blaenoriaethau ar gyfer ein cymunedau.


“Rydym yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyffrous lle mae pawb yn manteisio o adfywio ein cymunedau.” Mae’n rhwydd  ymateb drwy’r holiadur ar-lein.

Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl, sefydliadau, grwpiau a mudiadau sydd â diddordeb i roi eu barn ar y strategaeth ddrafft.

Byddai’n ein helpu pe medrech lunio eich ymateb yn ysgrifenedig (llawysgrifen neu electronig) o amgylch set o gwestiynau. Mae’r adnodd ymgynghori islaw, yn cynnwys y strategaeth ddrafft, canllawiau, cyflwyniad PowerPoint byr, a’r cwestiynau ymgynghori (fersiynau llawn a byr).

Efallai y bydd hi’n rhwyddach i chi lenwi eich ymateb drwy’r holiadur ar-lein islaw.

Cliciwch yma i lenwi’r fersiwn llawn o’r cwestiynau ymgynghori 

Cliciwch yma i lenwi’r fersiwn fyr o’r cwestiynau ymgynghori
 
Mae copïau o’r strategaeth ddrafft ym mhob un o’n llyfrgelloedd lleol. Medrwch lenwi’r ymgynghoriad arlein – holwch staff y llyfrgell.

Y dyddiad olaf ar gyfer llenwi’r ffurflenni yw dydd Sul 5 Medi.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01495 355786 neu e-bost: pps@blaenau-gwent.gov.uk.

Mae’r ddogfen ‘Gwneud Gwahaniaeth’ yn cyflwyno cynlluniau ar saith thema allweddol:


 

  • Cymunedau Egniol a Hygyrch – creu cymunedau y mae pobl yn mwynhau ac yn dymuno byw ynddynt
  • Cymunedau Ffyniannus – cynnig y cyfleoedd, cefnogaeth ac adnoddau i bobl ffynnu
  • Cymunedau Teg a Diogel – gwneud i bobl deimlo’n ddiogel mewn cymunedau
  • Cymunedau sy’n Dysgu – rhoi’r sgiliau i bobl i lwyddo
  • Cymunedau Iach – helpu pobl i fod yn iach a chael y gofal a’r gefnogaeth iawn pan maent ei angen
  • Cymunedau Gwyrdd a Chynaliadwy – gwella ein hamgylchedd heddiw ar gyfer yfory
  • Arweinwyr Cymunedol – gweithio gyda a thros ein cymunedau.