Looking Local – Teledu Digidol

 

Gall preswylwyr yn awr gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor drwy eu set deledu, ffôn symudol neu Wii yn dilyn lansio sianel wybodaeth flaengar - Looking Local.


Mae’r Cyngor wedi datblygu sianel deledu arbennig ‘Blaenau Gwent Looking Local’ a gall unrhyw un gyda Sky, Virgin neu flychau Freeview sydd wedi cysylltu â band eang gael mwy o wybodaeth drwy bwyso’r botwm rhyngweithiol ar eu teclyn rheoli teledu.

 

 

Mae’r gwasanaeth AM DDIM i’w ddefnyddio a gallwch ei ddefnyddio i roi gwybod i ni os oes bin ar goll, car wedi ei adael, graffiti neu olau stryd wedi torri, gofyn am wasanaethau neu daflenni, cael mwy o wybodaeth am gyfleusterau lleol, amserau agos a llawer mwy. Weithiau pan ydych eisiau gwybodaeth yn gyflym a dim awydd troi eich cyfrifiadur ymlaen, cofiwch fod gwasanaeth Blaenau Gwent Looking Local ar gael eich teledu, o gysur eich soffa.

 

 

Nid yn unig mae gwasanaethau gan y Cyngor, ond medrwch hefyd gynllunio taith a chael mynediad i wybodaeth am drafnidiaeth yn defnyddio gwasanaeth a grëwyd gan Transport Direct. Medrwch hefyd chwilio am swyddi’n lleol neu ar draws y wlad yn defnyddio cronfa ddata y Ganolfan Byd Gwaith.

 

 

 

Bydd teledu digidol gan bob cartref yng Nghymru cyn hir a bydd llawer o sefydliadau masnachol a sector cyhoeddus yn ymchwilio’r agweddau rhyngweithiol y mae teledu digidol yn eu galluogi. Daw teledu digidol yn ffordd arferol o gyfathrebu a chanfod gwybodaeth; mae dros 80 o awdurdodau lleol eisoes yn cyhoeddi gwasanaethau ar gyfer y rhai sy’n byw yn eu hardaloedd.


Medrwch gael mynediad i’r gwasanaeth hyn drwy ddilyn y cyfarwyddiadau syml islaw yn dibynnu pwy yw eich darparydd gwasanaeth teledu digidol. Cofiwch ei fod yn wasanaeth AM DDIM felly beth am edrych beth sydd ar gael ac os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella, gadewch i ni wybod drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth sydd ar gael drwy’r gwasanaeth.

   

Teledu Sky
Pwyso botwm Interactive
Dewis DirectGov
Pwyso 'Select' ar y dudalen groeso
Pwyso 1 – 'Local Services'
Dewis Wales
Sefydliadau A-E
Blaenau Gwent

   
   

Virgin
Pwyso’r botwm Interactive
Dewis News & Info
Dewis Looking Local
Dewis Wales
Sefydliadau A-E
Blaenau Gwent

     
   

Symudol
Drwy unrhyw ffôn sy’n medru cysylltu â’r we:
http://lookinglocal.gov.uk/
BlaenauGwent/

 

     
   

Wii a Chyfrifiaduron Personol
Rhowch yr URL dilynol yn eich porwr:
http://lookinglocal.gov.uk/
BlaenauGwent/

 

     

 

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â  01495 311556