Dysgu’n Gweithio – ymgynghoriad anffurfiol

24 November 2009

Cynhelir cyfarfodydd mewn ysgolion lleol ymgynghoriad anffurfiol ar ‘Dysgu’n Gweithio’ - y weledigaeth i drawsnewid addysg, dysgu, sgiliau a hyfforddiant ym Mlaenau Gwent.

Cafodd cyfanswm o £86 miliwn ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y prosiect - heb ragfarnu canlyniad yr ymgynghoriad.

Mae rhieni, disgyblion, athrawon, llywodraethwyr a staff yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd ac yn rhoi eu barn.

Mae llyfryn gyda gwybodaeth am gynigion Blaenau Gwent i adeiladu canolfannau dysgu newydd ar gyfer pob oedran yn Y Gweithfeydd; Glynebwy ar gael ar-lein yn www.blaenau-gwent.gov.uk

Mae prosiect ‘Dysgu’n Gweithio’ yn cynnwys cynigion ar gyfer adeiladau newydd 21ain gynradd ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd, ysgol arbennig newydd a chanolfan blant integredig. Mae hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ‘Hafan Dysgu’ canolfan dysgu integredig a medrai ddarparu addysg, hyfforddiant a sgiliau galwedigaethol ac academaidd i unrhyw un 16 oed a throsodd - canolfan hamdden a chanolfan celfyddydau perfformio.

Rhowch eich barn. Medrwch ysgrifennu at: Robert Barbour, Prif Swyddog Addysg, Depot Canolog, Stad Ddiwydiannol Barleyfield, Brynmawr, NP23 4YF. Medrwch hefyd e-bostio sylwadau at lisa.coles@blaenau-gwent.gov.uk.

Daw’r ymgynghoriad anffurfiol i ben ddydd Iau, 17 Rhagfyr 2009.