Eisteddfod 2010 - Cyngherddau

Mae rhaglen gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn gyffrous ac yn llawn o rai o sêr mwyaf Cymru - ac mae'r tocynnau ar werth nawr!

Mae'r cyngherddau'n cychwyn am 20.00 a'r cystadlu nos Fercher a Gwener yn cychwyn am 18.30.


Nos Sadwrn, 31 Gorffennaf
Only Men Aloud


Only Men Aloud – un o gorau enwocaf Prydain - sy’n agor yr Eisteddfod eleni, nos Wener 30 Gorffennaf, gyda sioe arbennig wedi’i chynhyrchu gan Ken Caswell, enw adnabyddus iawn yn y West End yn Llundain. Yn dathlu’u penblwydd yn ddeg oed eleni, mae’r côr sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yng nghymoedd y de, yn dod adref i ddathlu. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Sadwrn, 31 Gorffennaf
Pobl ifanc y dalgylch


Gala’r Ifanc yw teitl cyngerdd nos Sadwrn, 31 Gorffennaf, a noddir gan Principality. Cyfle i fwynhau doniau pobl ifanc y dalgylch dan arweiniad Gwasanaeth Cefnogi Cerddoriaeth Gwent, a chael cip ar rai o sêr y dyfodol.  I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Sul, 1 Awst
Gymanfa Ganu


Y Gymanfa Ganu fydd yn y Pafiliwn nos Sul, 1 Awst, gydag un o arweinyddion mwyaf poblogaidd Cymru – Alwyn Humphreys – yn codi’r canu, a Band Pres Tredegar hefyd yn cymryd rhan ar y noson. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Lun 2 Awst


Rhai o Gymry mwyaf llwyddiannus sioeau’r West End yn Llundain fydd yn ymddangos yng nghyngerdd Cymry’r West End, nos Lun 2 Awst. Gyda sêr arbennig fel Aled Jones, John Owen Jones, Mark Evans, Tara Bethan , a merch ifanc o ardal Blaenau Gwent – Katy Treharne – yn cymryd rhan, bydd hon yn noson o razzamatazz pur ar lwyfan y Pafiliwn! I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Fawrth 3 Awst
Côr yr Eisteddfod


Offeren Requiem enwog Mozart yn D leiaf yw prif ddarn Côr yr Eisteddfod eleni, gyda’r unawdwyr Jason Howard, Wynne Evans, Leah Marian Jones a Iona Jones. Daw’r côr, sydd â thros 230 o aelodau o bob cwr o Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd – a thu hwnt. Yr arweinydd yw Alun Guy, gyda Cherddorfa Siambr Cymru a chynhelir y cyngerdd hwn nos Fawrth 3 Awst. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Fercher 4 Awst


Cystadlu sydd ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher, gyda chystadlaethau Gwobr Goffa Richard Burton, Unawd o Sioe Cerdd, Seremoni Tlws y Cerddor, Ysgoloriaeth W Towyn Roberts a'r Côr Ieuenctid dan 25 oed. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Iau 5 Awst


Mae'r genedl wedi dewis, a dyma hoff gerddoriaeth glasurol ni'r Cymry.  Shan Cothi, Geraint Dodd a Gary Griffiths yw'r unawdwyr, ac Angharad Mair fydd yn cyflwyno'r noson, gydag Alwyn Humphreys yn arwain Cerddorfa Siambr Cymru, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Band Pres Tredegar. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Wener 6 Awst


Bydd Nos Wener 6 Awst yn noson lawn o gystadlu, gan gynnwys cystadleuaeth y Corau Cymysg. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Nos Sadwrn 7 Awst
Rhydian, Catrin Finch


Rhydian Roberts, Catrin Finch, Gwawr Edwards a Chordydd fydd yn cloi dathliadau’r wythnos yng nghyngerdd nos Sadwrn 7 Awst. Perfformiodd Rhydian a Gwawr gyda’i gilydd yn un o gyngherddau mwyaf poblogaidd Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau y llynedd, a braf fydd eu gweld yn rhannu llwyfan eto i gloi’r Brifwyl eleni. I brynu tocynnau, cliciwch yma.

Mae'r cyngherddau'n cychwyn am 20.00 a'r cystadlu nos Fercher a Gwener yn cychwyn am 18.30.