Y Traeth a noddwyd gan Wilmott Dixon – un o brif atyniadau Eisteddfod Blaenau Gwent.
Mae’r Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, yn croesawu pawb i Eisteddfod Blaenau Gwent.
“Croeso. Mae’r aros drosodd - mae Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 wedi cyrraedd.
“Rwy’n hynod falch i estyn croeso cynnes y Cymoedd i bawb – ac i ddweud fod gennym atyniadau arbennig ar gyfer ymwelwyr i’r maes. Mae digwyddiadau i’r teulu yn Y Traeth, robotiaid yn y Swyddfeydd Cyffredinol a llawer i’w wneud yn yr isloriau. Rydym yn hynod falch i helpu gyda’r trefniadau ar gyfer yr holl atyniadau hyn – byddant yn helpu i wneud yr Eisteddfod hon yn ddigwyddiad unigryw ac arbennig.”
Mae llawer o atyniadau gwych i’r teulu yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 yn Y Gweithfeydd: Glynebwy.
Mae nifer o ardaloedd gweithgaredd yn Y Traeth. Bydd y gweithgareddau yn rhedeg rhwng 10:15am a 4:00pm bob dydd o’r Eisteddfod o ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 7 Awst 2010. Bob dydd, drwy’r dydd, bydd cylchoedd, batiau, bwcedi, rhawiau, bowls a ffrisbis ar gael i’w defnyddio.
Bydd pedair sioe Punch a Judy bob dydd am 11am, 12.00pm, 1.00pm a 2.00pm.
Ddydd Iau 4 Awst o 11.00am ymlaen bydd digwyddiad hedfan barcut mewn cysylltiad ag Achub y Plant. Caiff yr holl farcutiaid a wnaed yn yr Eisteddfod yn stondin Achub y Plant eu hedfan y diwrnod hwnnw ar Y Traeth.
Mae’r holl weithgareddau yn hollol gynhwysol. Dyma’r amserau dyddiol – gall fod newidiadau.
10:15am – 10:45am Erobeg Cadeiriau Haul/Boccia Traeth
10:30am – 12:30pm Chwarae tywod a gweithgareddau i blant iau
11:00am – 12 noon Pêl-droed 5 bob ochr
12:30pm – 1:30pm Rygbi cyffwrdd
1:30pm – 2:30pm Pêl Foli
3:00pm - 4:00pm Hwyl traeth blynyddoedd cynnar/ cribo tywod / peintio cregyn/ cestyll tywod
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Bydd y Swyddfeydd Cyffredinol ar agor rhwng 10am a 6pm a bydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau - yn cynnwys y sinema 5D a phêl-droed robotig Robocup.
Sinema 5D
Bydd gwahanol sioeau drwy gydol wythnos yr Eisteddfod rhwng 10am a 6pm. Dewch draw a phrofi effeithiau 5d yn cynnwys seddi’n symud, chwistrellwr dwr a gogleision coesau. Mae rhaglen lawn ar gael bob dydd yn y Swyddfeydd Cyffredinol.
Robocup
Dewch draw i’r Swyddfeydd Cyffredinol a gweld deallusrwydd artiffisial Y Gweithfeydd ar waith - yn cynnwys digwyddiadau pêl-droed robot. Bydd amrywiaeth o weithgareddau robot (nodir islaw) i arddangos y diweddaraf mewn technoleg robotig. Dewch draw i roi cynnig arni!
Gweithgareddau Dyddiol: Sadwrn 31 Gorffennaf – Iau 5 Awst 2010
Amser Maes
10am 2 x ciciau cosb parhaus Gamepad
11am 2 x ciciau cosb Mocap
12 noon 3 x gêm Gamepad 2 ar 2
1pm 2 x ciciau cosb Mocap
2pm 3 x gêm Gamepad 2 ar 2
3pm 2 x ciciau cosb Mocap
4pm 2 x parhaus
5pm 2 x ciciau cosb Mocap
Cartrefi Dyfodol Cymru
Dewch draw i weld ein Eco-gartrefi arddangos i roi syniad o fywyd gwyrdd y dyfodol. Gall ymwelwyr fynd tu mewn i’r tai bob dydd drwy gydol yr Eisteddfod rhwng 10am a 5.30pm.
Gweithgareddau islawr
Sip-wifrwch eich hun i un o’r isloriau unigryw yn Y Gweithfeydd. Bydd y gweithgaredd ar gael rhwng 10am a 5pm drwy gydol yr Eisteddfod. Bydd ymwelwyr yn sip-wifro i islawr wyth metr o ddyfnder ac yn cael cyfle i ddringo allan drwy rwyd sgrambl. Mae cyfyngiadau iechyd a diogelwch.
Bydd isloriau Cymunedol a Gardd Fertigol ar agor i aelodau’r cyhoedd gerdded o amgylch fel y mynnant rhwng 10am a 5:30pm.