Os aned y babi ym Mlaenau Gwent
Dim ond y rhieni sydd yn cael mynychu er mwyn cofrestru.
Mewn amgylchiadau eithriadol, megis marwolaeth y fam, neu blentyn sydd wedi ei amddifadu, gall person arall fynychu i gofrestru'r babi. Os nad chi yw un o rieni’r plentyn, ffoniwch y swyddfa briodol am gyngor os gwelwch yn dda.
Os cafodd eich plentyn ei eni yn Abertyleri, Brynmawr, Blaina, Nantyglo, Llanhilleth neu Swffrydd, ffoniwch swyddfeydd Abertyleri, Brynmawr neu Blaina am gymorth a chyngor am yr hyn sydd angen i chi ddod gyda chi a phwy sydd angen mynychu i gofrestru’r babi.
Os cafodd eich babi ei eni yng Nglyn Ebwy, Tredegar, Rassau, Beaufort neu Cwm, ffoniwch swyddfa Tredegar am gymorth a chyngor am yr hyn sydd angen i chi ddod gyda chi a phwy sydd angen mynychu i gofrestru’r babi.
Wrth i chi gofrestru, byddwch yn derbyn un tystysgrif genedigaeth bychan ar gyfer y babi. Bydd unrhyw dystysgrif ychwanegol yn costio £3.50. Gallwch dalu gydag arian neu siec ond NID cerdyn credyd neu ddebyd ar hyn o bryd.
Byddwch hefyd yn derbyn Ffurflen FP58 a fydd yn dangos Rhif Iechyd Cenedlaethol y babi gan alluogi i chi gofrestru’r babi gyda’ch meddyg.
Os cafodd eich babi ei eni rhywle arall
Rhaid cofrestru pob genedigaeth yng nghofrestr y dosbarth (tref neu ardal) y bu digwydd yr enedigaeth.
Gallwch fynychu unrhyw swyddfa gofrestru ym Mlaenau Gwent a rhoi Datganiad o Enedigaeth. Bydd y manylion wedyn yn cael eu danfon i’r swyddfa yn y dosbarth lle y cafodd y babi ei eni.
Bydd unrhyw dystysgrifau yn cael eu cyhoeddi gan y swyddog priodol wedi i’r enedigaeth gael ei chofrestru yn eu cofrestr. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw dystysgrif oddi wrth y cofrestrydd a fydd yn cymryd manylion ar gyfer y ffurflen Datganiad o Enedigaeth.
Bydd y swyddfa a fydd yn gosod yr enedigaeth ar eu cofrestr yn danfon un tystysgrif bychan. Bydd unrhyw dystysgrif ychwanegol yn costio £3.50 ac oherwydd bod manylion yr enedigaeth yn cael eu danfon drwy’r post i swyddfa arall, gallwch ond talu drwy siec neu archeb post.
Os oes angen y tystysgrifau arnoch ar frys, bydd rhaid i chi fynd i’r swyddfa yn y dre lle ganwyd y plentyn er mwyn cofrestru’r enedigaeth yno.
Ail-gofrestru genedigaeth
Os hoffech ail-gofrestru genedigaeth eich babi er mwyn ychwanegu manylion y tad neu os ydych ers hynny wedi priodi tad y babi, ffoniwch os gwelwch yn dda prif swyddfa gofrestru ym Mlaenau Gwent am help a chyngor ar 01495 216082 (Abertyleri) 01495 353374(Tredegar).





