Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig gwasanaeth rheoli pla rhad ac am ddim i fangrefydd domestig o fewn y fwrdeistref. Rydym hefyd yn trin mangrefydd masnachol bach os yw’n debygol i fod gyda chysylltiad i fangrefydd domestig, mae siop fechan mewn rhes o dai yn enghraifft glasurol.
Rydym yn trin llygod mawr, llygod, chwilod duon, chwilod gwely, a chwain ar hyn o bryd. Os oes gyda chi broblem gydag unrhyw bla arall, yna mi fyddwn yn eich cynghori i gysylltu gyda chontractwr trin pla preifat neu archebu cynnyrch rheoli pla oddi wrth gyflenwr lleol.
Targedau Perfformiad
Fel rhan o’n gwasanaeth i chi, rydym yn anelu i gwrdd gyda’r targedau dilynol wrth ddelio gyda’ch cais i gael ymweliad oddi wrth y swyddfa rheoli pla.
- Pla o few manger – o fewn un diwrnod gwaith
- Pla o fewn cwrtil / gardd - o fewn tri diwrnod gwaith
- Pla ar dir arall - o fewn pum diwrnod gwaith
- Pob pla pryfed - o fewn pum diwrnod gwaith.





